Gwahaniaethau hiliol wrth roi sancsiynau lles ar waith yn Lloegr
21 Chwefror 2024
Mae hawlwyr o leiafrifoedd ethnig sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn Lloegr yn fwy tebygol o wynebu sancsiynau wrth hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith o gymharu â phobl wyn.
Defnyddiodd academyddion o Brifysgol Caerdydd ddata’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i ddadansoddi cyfanswm nifer y penderfyniadau ar sancsiynau ac atgyfeirio a wnaed ym mhob awdurdod lleol (ALl) yn achos grwpiau ethnig gwahanol dros gyfnod o saith mlynedd.
Mae’r canlyniadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Transactions of the Institute of British Geographers, yn datgelu lleoedd problemus penodol lle mae gwahaniaethau hiliol ar eu mwyaf amlwg – y rhan fwyaf ohonynt mewn ardaloedd gwledig.
Yn Cumbria, mae hawlwyr Du neu Ddu Prydeinig bron deirgwaith (2.94) yn fwy tebygol o gael eu hatgyfeirio am sancsiwn na phobl wyn yn yr un sefyllfa. Maen nhw ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu cosbi yn Ynys Wyth a Poole, a mwy na 1.5 gwaith yn fwy tebygol yng Nghaerefrog, Gogledd Swydd Efrog, East Riding a Chernyw.
Yn Swydd Efrog a’r Humber, mae hawlwyr â chefndir ethnig cymysg 1.71 gwaith yn fwy tebygol o gael eu cosbi mewn ardaloedd gwledig na’u cymheiriaid Gwyn, tra mewn ardaloedd trefol mae 1.47 gwaith yn fwy tebygol. Er bodhawlwyr Du neu Ddu Prydeinig sy'n byw mewn rhannau trefol o'r rhanbarth yn wynebu'r un risg o sancsiynau â'u cymheiriaid gwyn, mae'r rheini sy'n byw mewn ardaloedd gwledig 1.47 gwaith yn fwy tebygol.
Dyma a ddywedodd yr awdur arweiniol Dr Andrew Williams, sy’n gweithio yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: “Mae canlyniadau ein hymchwil yn llwm – ac yn dangos bod hawlwyr â chefndir a leiafrifir yn hiliol yn fwy tebygol o gael eu hatgyfeirio am sancsiwn gan weithwyr achos y Ganolfan Waith a chael penderfyniad anffafriol gan y rheini sy’n gwneud penderfyniadau sefydliadol.
“Yng nghefn gwlad Lloegr, mae’r risg o gael sancsiwn yn sylweddol uwch ym mhob grŵp, ond yn enwedig yn achos hawlwyr treftadaeth Gymysg a Du/Du Prydeinig. Gan na ryddhawyd data ar ethnigrwydd hyd yn hyn yn achos penderfyniadau ar sancsiwn y Credyd Cynhwysol, mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn ein helpu i ddeall yn well parhad posibl anghyfiawnder hiliol yn y system sancsiynau lles.”
Dadansoddwyd data sydd ar gael yn gyhoeddus rhwng 2012 a 2019 yn yr astudiaeth. Cafodd hyn ei ailadrodd yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn sirol er mwyn caniatáu cyfrifiadau digon mawr a fyddai’n galluogi dadansoddiad mwy gronynnog o’r gwahaniaethau rhwng grwpiau ethnig a’r gwahaniaethau daearyddol.
Mae’r papur yn nodi i lywodraeth y DU, yn rhan o’i rhaglen gyni, dynhau amodau rhaglenni lles a’i bod wedi dwysáu’r defnydd o gosbau ariannol yn erbyn hawlwyr lles yn ystod y cyfnod hwn.
Ychwanegodd Dr Williams: “Nid mater o fudd-daliadau etifeddol yn unig yw hyn. Mae arolwg barn diweddar o 809 o hawlwyr y Credyd Cynhwysol gan Gyngor ar Bopeth* yn dangos bod gwahaniaethau hiliol yn achos penderfyniadau sancsiynol yn parhau: dywed 9% o bobl wyn eu bod wedi cael sancsiwn, o’u cymharu â 17% o bobl a leiafrifir yn hiliol.
“Mae tystiolaeth gynyddol wedi dangos bod system y sancsiynau lles wedi arwain at lefelau uwch o amddifadedd, y defnydd o fanciau bwyd, dyled, rhyw goroesi a throseddu, yn ogystal ag iechyd meddwl sy’n gwaethygu. Er hynny, profwyd bod sancsiynau yn aneffeithiol o ran galluogi pobl i sicrhau a chynnal gwaith cyflogedig sy'n eu codi allan o dlodi.
“Mae angen sylw polisi ar fyrder i ymchwilio i’r rhesymau y tu ôl i’r gwahaniaethau pryderus hyn.”