Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid i fynd i'r afael â heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig Cymru

20 Chwefror 2024

Awyrlun o afon yn troelli trwy dirwedd

Mae partneriaeth sy'n cynnwys Prifysgol Caerdydd wedi derbyn gwerth mwy na £5 miliwn o gyllid i ymchwilio i atebion i heriau gwledig.

Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales, Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig, yn cysylltu ymchwilwyr, cymunedau, a llunwyr polisi i gefnogi datblygiad cynhwysol a chynaliadwy.

Wedi’i hariannu gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar yr heriau o greu economi adfywiol, cefnogi’r cyfnod pontio sero net, gwella iechyd, llesiant a mynediad at wasanaethau, a rhoi’r grym yn nwylo cymunedau a diwylliant, gan gynnwys adfywio’r Gymraeg.

Dywedodd yr Athro Paul Milbourne, sy’n Gyd-gyfarwyddwr yr LPIP: “Mae’r dyfarniad hwn yn rhoi cyfle gwych i ymchwilwyr, llunwyr polisi, sefydliadau trydydd sector a chymunedau gydweithio i fynd i’r afael â’r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol allweddol sy’n wynebu cefn gwlad Cymru. Drwy gynhyrchu setiau data newydd, ymgysylltu â chymunedau lleol ac archwilio dulliau seiliedig ar le ar gyfer datblygu gwledig, bydd yr LPIP yn helpu i gefnogi dyfodol mwy cynhwysol a chynaliadwy ar gyfer y rhanbarth gwledig”.

Mae tîm amlddisgyblaethol o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn ymwneud â’r LPIP, sy’n cynnwys yr Athro Paul Milbourne a’r Athro Scott Orford o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yr Athro James Lewis a Dr Sara MacBride-Stewart o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. a Dr Alison Parken o'r Ysgol Busnes.

Mae’r bartneriaeth wedi’i harwain gan Brifysgol Aberystwyth, ac mae’n cynnwys ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Swydd Gaerloyw, ynghyd â phartneriaid gan gynnwys Antur Cymru, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Datblygiadau Egni Gwledig, Represent Us Rural, Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, Gyda’n Gilydd Dros Newid, a'r partner diwydiant Sgema. Mae Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd yn bwydo eu gwybodaeth i mewn i'r prosiect.

Bydd y rhaglen waith tair blynedd yn ymgysylltu ag amrywiaeth o bobl mewn labordai arloesi i ddatblygu a phrofi ymyriadau, prosiectau ymchwil sy’n cael eu harwain gan y gymuned sy’n canolbwyntio ar bryderon lleol, a thrafodaethau ar faterion hollbwysig megis defnydd tir a sero net. Bydd hefyd yn casglu data newydd drwy arolygon ac astudiaethau byr, gan greu Canolfan Tystiolaeth Integredig Ar-lein ar gyfer Cymru wledig.

Dywedodd yr Athro Alison Park, Pennaeth thema creu cyfleoedd, gwella canlyniadau UKRI: “Mae Partneriaethau Polisi ac Arloesi Lleol yn dangos ymrwymiad UKRI i ddod ag ystod amrywiol o bartneriaid ynghyd, o lywodraeth leol a datganoledig, cymunedau a busnesau. Drwy’r cydweithio hirdymor hyn, byddwn ni’n cyflymu’r defnydd o ymchwil ac arloesi i leihau anghydraddoldebau rhanbarthol a sbarduno twf cynaliadwy a chynhwysol.”

Mae’r LPIP yn un o bedair Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol a ariennir gan yr ESRC, gydag eraill yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Rhannu’r stori hon

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws disgyblaethau i fynd i’r afael â heriau pwysig sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’n hamgylchedd.