Manteision parhaus rhaglen hyfforddiant cyffredinol ar gyfer meddygon y DU
14 Chwefror 2024
Cyflwynwyd rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer meddygon cyffredinol (hyfforddiant eang - sy’n dwyn y byrfodd BBT) yn 2013 a chynhaliodd ymchwilwyr yn Uned Caerdydd ar gyfer Ymchwil ac Arfarnu mewn Addysg Feddygol a Deintyddol (CUREMeDE) astudiaeth 3 blynedd ynghylch ei heffaith ar ddatblygiad hyfforddeion.
Roedd CUREMeDE yn falch iawn o gael cyllid yn 2021 ar gyfer astudiaeth ddilynol i archwilio effaith BBT ar benderfyniadau ynghylch gyrfa, buddion parhaus y rhaglen a hefyd ei hanfanteision anfwriadol, yn ogystal â safbwyntiau ar ddyfodol hyfforddiant. Mae'r ymchwil honno bellach wedi'i chyhoeddi yn BMJ Open.
Mae canlyniadau'r astudiaeth ddilynol hon yn seiliedig ar ddata o'r dair garfan gyntaf o hyfforddeion BBT y bu iddynt ddechrau dilyn y rhaglen rhwng 2013 a 2015. Bu i ni gynnal 8 cyfweliad a chawsom 70 o ffurflenni arolwg (sy'n cynrychioli cyfradd ymateb o 59%).
Mae ein dadansoddiad yn rhoi tystiolaeth glir bod manteision y BBT fel y’u mynegwyd gan gyfranogwyr pan oeddent yn ymgymryd â’r rhaglen wedi parhau dros amser. Mae'r rhain yn cynnwys dylanwad cadarnhaol y rhaglen ar benderfyniadau ynghylch gyrfa, gwerth profiad ychwanegol, cael deall arbenigeddau eraill, a datblygu dull mwy cyfannol o ofalu am gleifion.
Rydym yn nodi yn ei casgliad bod y cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn hynod freintiedig o fod wedi profi BBT a’u tristwch ynghylch y ffaith nad yw’r rhaglen ar gael mwyach. Ein barn ni yw y dylai'r rhai sy'n trefnu hyfforddiant meddygon iau roi rhagor o ystyriaeth i raglenni sy'n cefnogi datblygiad doctoriaid cyffredinol, meddygon sy’n gweithio yn y maes gofal eilaidd sy'n gallu defnyddio dull mwy cyfannol gan weithio gydag eraill i lywio anghenion gofal cleifion cymhleth.
Mae’r papur ar gael i’w lawrlwytho nawr.