Targedu llid er mwyn mynd i’r afael â COVID hir
14 Chwefror 2024
Mae gorweithio'r system imiwnedd sy'n arwain at gylchrediad proteinau llidiol o amgylch y corff yn cyfrannu at ddatblygiad COVID hir, a byddai modd eu targedu i ddarparu triniaethau i gleifion, yn ôl ymchwil newydd.
Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd wedi datgelu marcwyr biolegol a allai gael eu targedu drwy ailbwrpasu meddyginiaeth i drin COVID hir.
Yn rhan o’r ymchwil, cafodd samplau plasma a gafwyd o garfan fawr o unigolion iach wedi COVID-19 a chleifion â COVID hir nad oedd wedi mynd i’r ysbyty eu dadansoddi’n helaeth. Yn ôl yr ymchwil, roedd y system ategol - system sy'n chwarae rhan hanfodol o'r system imiwnedd, sy'n cynnwys grŵp o broteinau sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella swyddogaeth gwrthgyrff a chelloedd imiwn - yn cael ei gorweithio’n aml yn y bobl hynny â COVID hir.
“Yn rhan o’r ymchwil hwn, rydyn ni'n dangos gorweithio’r system ategol mewn achosion o COVID hir. Mae dadreoleiddio’r system ategol yn nodwedd gyffredin o glefydau llidiol acíwt a chronig ac yn un o’r prif bethau sy’n ysgogi llid. Felly, byddai modd i ni ddefnyddio’r wybodaeth hon nid yn unig i ddeall ymhellach achosion o COVID hir, ond hefyd i ddatblygu triniaethau effeithiol.”
Ar hyn o bryd, does dim profion i wneud diagnosis o COVID hir, ond mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gallai marcwyr biolegol ar gyfer y system ategol a gaiff eu mesur mewn samplau gwaed hwyluso diagnosis ffurfiol o COVID hir.
Mae triniaethau effeithiol ar gyfer COVID hir hefyd yn ddiffygiol, gyda dulliau triniaeth cyfredol yn gyfyngedig i leddfu symptomau ac adsefydlu. Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd eu canfyddiadau'n sail i brofi therapïau wedi'u targedu i atal y system ategol ac adfer iechyd.
Ychwanegodd Dr Zelek, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Ar hyn o bryd, does dim un driniaeth na meddyginiaeth effeithiol ar gyfer COVID hir, heblaw am driniaethau cyfyngedig sy’n darparu rhywfaint o ryddhad o symptomau. Mae ein hymchwil yn awgrymu y gallai targedu gorweithio’r system ategol ddarparu triniaeth effeithiol i rai unigolion â COVID hir."
Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd modd rhoi treialon cyffuriau cychwynnol ar waith yn y dyfodol agos i brofi'r meddyginiaethau hyn ar gleifion sydd â COVID hir, sydd wedi’u dewis yn seiliedig ar y marcwyr gwaed y maen nhw wedi'u nodi.
Cafodd yr ymchwil, ‘Complement dysregulation is a prevalent and therapeutically amenable feature of long COVID’, ei arwain gan yr Athro Paul Morgan, yr Athro David Price, Dr Helen Davies a Dr Wioleta Zelek, a’i gyhoeddi yn Med, cyfnodolyn meddygol blaenllaw sy’n cael ei gyhoeddi gan Cell Press.