Dyfodol disglair i bodlediadau yng Nghymru
14 Chwefror 2024
Mae enwau mawr o fyd y podlediadau wedi trafod dyfodol y diwydiant yng Nghymru yn rhan o PodCon Cymru.
Daeth tri chant o bobl i ddigwyddiad - sef un o'r cynadleddau mwyaf o'i fath yn y DU - yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, a gafodd ei gyflwyno ar y cyd â’r Ganolfan i’r Economi Greadigol ac Audible.
Roedd panel agoriadol wedi’i gyflwyno gan Colin Paterson o BBC Audio, a oedd yn cynnwys y cynhyrchydd Steven Rajam (A Positive Life), Ffion Clarke (Go Love Yourself) a Mari a Meilir o bodlediad Cymraeg Cwîns, yn trafod “Pam mae Cymru'n wych”, yr ymrwymiad i gydweithio a'r manteision o fod yn genedl ddwyieithog.
Ymhlith y sesiynau nodedig, roedd newyddiadurwr ITV, David Williams, wedi sôn am bodlediad arobryn Partygate: The Inside Story, a aeth y tu ôl i'r llenni ar sut ddaeth y stori hon yn sgandal wleidyddol enfawr.
Soniodd y newyddiadurwr ymchwilio, Poonam Taneja, am ei chyfres Bloodlines, sef stori am chwilio am blentyn tair blwydd oed a oedd ar goll yn Syria.
Siaradodd Jack Davenport o Goalhanger Podcasts am y cyfleoedd i gyrraedd cynulleidfaoedd eang. Mae’r cwmni’n gyfrifol am rai o'r podlediadau y mae pobl yn gwrando arnyn nhw fwyaf, gan gynnwys cyfres The Rest Is.
Hefyd, trafododd gohebydd y gogledd y Daily Mail, Liz Hull, a'r cynhyrchydd Caroline Cheetham heriau adrodd straeon o’r llys, a hynny yn sgil eu podlediad am achos Lucy Letby.
Dywedodd Sali Collins, Pennaeth Ymarfer a chyfarwyddwr cwrs yr MA mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, a drefnodd y digwyddiad: “PodCon Cymru eleni oedd y mwyaf llwyddiannus hyd yma. Rydyn ni’n falch o allu cynnig llwyfan i arbenigwyr yn y diwydiant o bob rhan o'r DU i rannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd. Rydyn ni’n gwybod bod Podcon Cymru eisoes wedi ysbrydoli rhai o’r bobl a ddaeth iddo i ddechrau eu podlediadau eu hunain neu arloesi yn y maes hwn. Mae Cymru'n prysur ddod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer podlediadau a chynnwys sain, gan ddarparu cyfleoedd creadigol a chyffrous i raddedigion a phobl greadigol o ran eu gyrfaoedd.”
Dywedodd yr Athro Sara Pepper, cyfarwyddwr Uned Ymchwil yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae'n amlwg bod rhywbeth arbennig iawn yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd a'n bod yn adeiladu sylfaen lle mae cynhyrchu podlediadau yn ffynnu. Roedd yn ysbrydoledig gweld cynifer o bobl greadigol mewn un ystafell, yn rhannu eu syniadau, eu safbwyntiau a’u harbenigedd ar bob lefel. Yn ôl yr adroddiadau, dyma ddiwydiant sy'n tyfu'n gyflym. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'n datblygu ymhellach yma yng Nghymru.”
Dywedodd Rheolwr Caerdydd Creadigol, Jess Mahoney: “Mae digwyddiadau megis PodCon Cymru yn rhan allweddol o sbarduno twf sector cyfryngau y rhanbarth, a meithrin enw da cynyddol Caerdydd yn ganolbwynt ar gyfer creu cynnwys sain dwyieithog. Daeth PodCon 24 ag arlwy enfawr o bobl sy’n meddwl ac yn gwneud ynghyd yn y fformat cyffrous hwn, gan dynnu ynghyd sgyrsiau sy’n dod i’r amlwg, meithrin cysylltiadau a chyfleoedd cydweithio, ac ysbrydoli'r don nesaf o bodledwyr llwyddiannus gyda fformatau a chynnwys newydd, yn ogystal â chyngor ymarferol. Mae Canolfan yr Economi Greadigol - ar cyd â Caerdydd Creadigol a Media Cymru - yn edrych ymlaen at weithio gyda thîm PodCon ac adeiladu ar y llwyddiant hwn.”