Partneriaeth ryngwladol ym maes ymchwil ar niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl
8 Chwefror 2024
Mae Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd wedi creu partneriaeth ag Ysgol Iechyd Meddwl a Niwrowyddoniaeth Prifysgol Maastricht i ddod ag arbenigedd ymchwil ym maes ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ynghyd.
Diben y bartneriaeth rhwng prifysgolion yng Nghymru a’r Iseldiroedd yw dod ag ymchwilwyr ar draws disgyblaethau ynghyd i hwyluso gwaith ar y cyd, a hynny gyda’r nod o ehangu dealltwriaeth wyddonol o achosion sylfaenol cyflyrau niwrolegol ac iechyd meddwl.
Dyma a ddywedodd yr Athro Adrian Harwood, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl: “Mae’r bartneriaeth hollbwysig hon rhwng y Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl ac Ysgol Iechyd Meddwl a Niwrowyddoniaeth Prifysgol Maastricht yn rhychwantu pob agwedd ar ymchwil ar niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, gan ehangu ein capasiti ymchwil, cyflwyno hyfforddiant ymchwil a chydlynu strategaeth i sicrhau cyllid ar y cyd."
Un o sefydliadau blaenllaw y Brifysgol yw Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, gan droi ymchwil arloesol ym maes ymchwil niwrolegol ac iechyd meddwl yn atebion diagnostig a thriniaeth effeithiol. Gan weithio mewn partneriaeth ag Ysgol Iechyd Meddwl a Niwrowyddoniaeth Prifysgol Maastricht, eu nod yw cyfuno gweithgarwch ymchwil ac arbenigedd i sicrhau rhagor o effaith.
Dyma a ddywedodd yr Athro David Linden, Cyfarwyddwr Gwyddonol Sefydliad Iechyd Meddwl a Niwrowyddoniaeth Prifysgol Maastricht: “Mae Maastricht eisoes wedi meithrin perthynas hirsefydlog gyda Phrifysgol Caerdydd, er enghraifft ym maes niwrogeneteg a niwroddelweddu. Un maes allweddol o ddiddordeb fydd troi darganfyddiadau genetig, llawer ohonyn nhw dan arweiniad Caerdydd, yn ymchwil drosi ac, yn y pen draw, driniaethau newydd.”
Bydd y partneriaethau rhyngwladol yn canolbwyntio ar chwilio am gyfleoedd i gydweithio o ran ymchwil ym mhob agwedd ar niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, hyfforddiant i raddedigion a hyfforddiant technegol yn ogystal â hwyluso cyfnewidiadau gwybodaeth.