Cyn-fyfyriwr pensaernïaeth yn cael ei gydnabod gyda gwobr ryngwladol ar gyfer cynaliadwyedd
6 Chwefror 2024

Cyflwynwyd y Wobr Gwyddoniaeth a Chynaliadwyedd i gyn-fyfyriwr Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Dr Hashem Taher (MSc 2017) yng Ngwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK yr Aifft.
Mae’r gwobrau, a drefnir gan y Cyngor Prydeinig, yn taflu goleuni ar effaith cyn-fyfyrwyr o brifysgolion y DU sy’n byw y tu allan i’r DU. Lansiwyd degfed flwyddyn Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK yn y noson wobrwyo yn yr Aifft.
Enillodd Dr Taher y Wobr Gwyddoniaeth a Chynaliadwyedd. Mae’r wobr hon yn cydnabod y cyn-fyfyrwyr hynny sy’n gallu dangos cyfraniad cadarnhaol sylweddol ym myd gwyddoniaeth a chynaliadwyedd, gyda ffocws penodol ar feysydd megis camau er budd yr hinsawdd, ynni glân, meddygaeth, dinasoedd a chymunedau cynaliadwy, peirianneg, diwydiant ac adeiladu.
Astudiodd Dr Taher Fega-Adeiladau Cynaliadwy yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Yna aeth i Brifysgol Dwyrain Llundain i gynnal ymchwil PhD. Trwy ei ffocws ar ddatblygu coridorau gwyrdd, mae’n gallu hawlio ei fod wedi effeithio'n anuniongyrchol ar 9.8 miliwn o drigolion Llundain, yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar ddegau o filoedd sy'n wynebu llygredd a straen thermol.
Dywedodd TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr:

Mae Prifysgol Caerdydd yn falch iawn o Dr Taher. Mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol o Lundain i Cairo, ac mae’n hyrwyddwr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn falch iawn ei fod wedi gweithredu ar yr hyn a ddysgodd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ag yntau nawr yn sylfaenydd Ysgol y Celfyddydau Creadigol yn yr Aifft, mae mewn sefyllfa unigryw i sicrhau bod gwerthoedd Caerdydd yn parhau ac yn cael eu meithrin yn y genhedlaeth nesaf o arweinwyr. Llongyfarchiadau cynnes.