Gwobr Ffuglen Affricanaidd
6 Chwefror 2024
Yn ail am nofel gyntaf
Mae’r cyn-fyfyriwr Fayssal Bensalah (PhD 2023) wedi dod yn ail yng Ngwobr Ffuglen Affricanaidd Gwasg Graywolf 2023.
Dyma'r trydydd fersiwn o'r wobr fawreddog a ddyfarnwyd am nofel gyntaf gan awdur Affricanaidd sy'n byw yn bennaf yn Affrica.
Mae The Couscous Western, nofel gowboi llenyddol gydag elfennau o realaeth hudol, am dair cenhedlaeth o ferched Mwslimaidd sydd yn ceisio ymdopi â'u galar ar ôl golli rhywun annwyl.
Roedd Tsitsi Dangarembga, beirniad sydd ei hun wedi cael ei rhestru gan y Wobr Booker, wedi canmol Bensalah am yr eironi gwych yn ei ysgrifennu, ei ddelweddau gwreiddiol a byw a’i frwdfrydedd, sensitifrwydd a medr wrth greu ei brif gymeriad.
Mae'r awdur ifanc o Algeria yn ysgrifennu yn Saesneg yn hytrach na Ffrangeg neu Arabeg, sy'n anarferol.
Mae Dr Fayssal Bensalah wedi ennill ei ddoethuriaeth yn ddiweddar ac mae hefyd yn addysgu ysgrifennu creadigol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.