Deall Profiadau Merched a Menywod Du Prydeinig yn System Addysg Lloegr
1 Chwefror 2024
Nid yw system addysg Lloegr wedi mynd i’r afael â’r heriau unigryw y mae merched a menywod Du Prydeinig yn eu hwynebu, yn ôl academydd o Brifysgol Caerdydd.
Yn rhan o ysgoloriaeth ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) treuliodd Dr April-Louise Pennant bedair blynedd yn gwneud ymchwil ac yn cynnal 42 o gyfweliadau i drin a thrafod profiadau menywod Du Prydeinig sy’n raddedigion – o’r ysgol gynradd hyd at y brifysgol.
Casglwyd eu hanesion, yn ei llyfr a gaiff ei gyhoeddi’n fuan, Babygirl, You've Got This! Understanding the Experiences of Black Girls and Women in the English Education System.
Mae'r llyfr yn ystyried dylanwad hil, rhyw, ethnigrwydd, diwylliant a dosbarth cymdeithasol ar brofiadau eu hanes addysgol, a sonnir ynddo am y rhwystrau gwahanol o ran hygyrchedd yn ogystal â’r rhwystrau ariannol, cymdeithasol ac academaidd y mae merched a menywod Du yn eu hwynebu.
Dyma a ddywedodd Dr Pennant yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd: “Mae fy ymchwil wedi dangos y bydd mynd drwy system addysg Lloegr a graddio, a chithau’n fenyw Ddu Brydeinig raddedig, weithiau’n llethu rhywun yn feddyliol ac yn seicolegol ac yn gofyn am egni ychwanegol sy’n amlygu ei hun ar ffurf pwysau mewnol, problemau o ran iechyd meddwl ac, yn y pen draw, ‘llwyddiant’ addysgol cyfyngedig.
“Mae’r llyfr hwn yn dangos nad yw’r ddealltwriaeth sefydliadol bresennol o gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ddigonol i fynd i’r afael â’r heriau unigryw y bydd merched a menywod Du Prydeinig yn eu hwynebu.
“Dylid hefyd gadw’r cydbwysedd digonol yn y system er mwyn dod o hyd i broblemau, fel yn achos fy ymchwil, ond ar ben hynny i fynd i’r afael â nhw cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Dylid adolygu ac ehangu cynlluniau megis dad-drefedigaethu’r system addysg, mentora a chyllido er mwyn cwmpasu’r system addysg gyfan, a hynny i sicrhau bod myfyrwyr benywaidd Du Prydeinig yn meddu ar y cyfiawnder cymdeithasol, rhyw a hiliol y maen nhw’n ei haeddu.”
Yn rhan o’r gyfrol, mae Dr Pennant hefyd yn myfyrio ar ei phrofiad ei hun o addysg a’r llwybr y mae wedi’i gymryd tuag at ‘lwyddiant’, gan gyrraedd ei nod, sef bod yn academydd ac yn arbenigwraig yn ei maes.
Dyma a ddywedodd hi: “Yn ystod fy astudiaethau yn y brifysgol, sylweddolais i fod fy hanes addysgol yn un o blith llawer a chefais i fy nhanio oherwydd hyn i ystyried hanesion pobl eraill. Rwy'n teimlo'n ffodus i fod yn rhan o broffesiwn sy'n ehangu ar fy mhrofiadau addysgol ac fy hanes, fy angerdd a'm harbenigedd yn sgil fy astudiaethau a fy hyfforddiant ymchwil. Llwyddais i i ddarganfod fy hun gan mai Dr April-Louise ydw i bellach, ond ar ben hynny roedd yn fodd i greu gofod cysegredig i ehangu gwybodaeth werthfawr merched a menywod Du Prydeinig eraill mewn lleoliad academaidd yn ogystal â'i ddadansoddi a'i feirniadu.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn cyfrannu rhywfaint at wella polisïau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a bod merched a menywod Du Prydeinig yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso a’u cydnabod gan y profiadau yn y llyfr hwn. Mae yna lawer o wahaniaethau rhwng yr hanesion, ond ceir hefyd lawer o debygrwydd a llawer i'w ddathlu o ran ein gwydnwch a’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni.”