Deall datblygiad ymennydd plant yn well
31 Ionawr 2024
Oherwydd y cyllid newydd, bydd ymchwilwyr yn gallu dod o hyd i wybodaeth newydd am y newidiadau sy'n digwydd yn yr ymennydd sy'n datblygu yn ystod plentyndod hwyr a’r glaslencyndod, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad niwro-nodweddiadol a niwro-ddargyfeiriol.
Mae Prifysgol Caerdydd, ynghyd â Phrifysgol Caergrawnt a Sefydliad Donders yn yr Iseldiroedd, wedi ennill un o Ddyfarniadau Cyllid Darganfod Wellcome i arwain prosiect ymchwil blaengar newydd. Bydd y dyfarniad o £5,991,696 yn ariannu ymchwil sy'n ceisio deall sut mae datblygiad yr ymennydd ar y lefel ficrosgopig rhwng 8 a 18 oed yn gysylltiedig â datblygiad gwybyddol a chymdeithasol-emosiynol.
Bydd yr ymchwil hefyd yn ymchwilio i ddatblygiad yr ymennydd mewn plant a’r glasoed sydd â Syndrom Dileu 22q11.2. Dyma gyflwr genetig a achosir yn sgil dileu tua 40 o enynnau sy’n rhan o gromosom 22 ac yn gysylltiedig â deilliannau niwroddatblygiadol ac iechyd meddwl.
Dyma a ddywedodd yr Athro Marianne van den Bree, Sefydliad Arloesi Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae plentyndod hwyr a glaslencyndod yn gyfnodau hollbwysig mewn bywyd pan fydd bregusrwydd o ran materion iechyd meddwl yn tueddu i ddod i’r amlwg.”
Yr Athro Sarah-Jayne Blakemore. Dyma a ddywedodd Prifysgol Caergrawnt: “Bydd yr astudiaeth hon yn caniatáu inni fapio datblygiad yr ymennydd ar lefel ficrostrwythurol, gan gysylltu hyn â’r ffordd y bydd mae plant a’r glasoed yn datblygu o ran eu galluoedd gwybyddol, eu prosesau cymdeithasol ac emosiynol a’u hiechyd meddwl.”
Ychwanegodd yr Athro Roger Kievit, Sefydliad Donders: “Rydyn ni’n sylweddoli fwyfwy, er mwyn deall datblygiad yr ymennydd go iawn yn ogystal â’r heriau a allai godi, fod yn rhaid inni astudio sut mae ymennydd ac ymddygiad pobl yn newid dros amser. Yn sgil y prosiect hwn, bydd cyfuniad unigryw o drachywiredd gofodol dros gyfnod o flynyddoedd i weld sut mae newidiadau yn yr ymennydd yn dod i’r amlwg ac yn datblygu.”
Gobaith y tîm o ymchwilwyr yw y bydd canfyddiadau eu hastudiaeth yn cael eu defnyddio yn y dyfodol i hwyluso’r gwaith o ganfod y risg yn sgil iechyd meddwl yn gynnar, gan roi sylfaen dystiolaeth i gynnal ymyraethau tymor hwy.