£1 miliwn o gyllid ar gyfer ysgoloriaethau ymchwil canser
29 Ionawr 2024
Diolch i'r rhodd fwyaf hyd yma gan Ymddiriedolaeth Myristica, gellir cefnogi naw PhD.
Mae Ymddiriedolaeth Myristica wedi dyfarnu £1 miliwn i Brifysgol Caerdydd i ariannu naw ysgoloriaeth PhD ymchwil canser dros y tair blynedd nesaf.
Bydd yr ysgoloriaethau hyn, a gaiff eu hariannu’n llawn, yn cefnogi ymchwil canser ar draws y Brifysgol, a gallai ffocws y prosiectau amrywio, boed atal canser a gwneud diagnosis cynnar neu ddarganfod cyffuriau newydd. Bob blwyddyn, bydd un o’r ysgoloriaethau hyn yn canolbwyntio ar ymchwil genomeg ac ansefydlogrwydd genomau o fewn yr is-adran Meddygaeth Genetig a Genomig, a hynny dan arweiniad yr Athro Duncan Baird.
Ers dros 18 mlynedd, mae Ymddiriedolaeth Myristica wedi ariannu ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddyfarnu £100,000 ar gyfer ysgoloriaeth PhD ym maes Biowybodeg yn fwyaf diweddar. Bydd yr ymrwymiad newydd hwn o £1 miliwn o gyllid yn adeiladu ar y berthynas bresennol sydd gan yr Ymddiriedolaeth â'r Athro Baird a'i dîm ac yn ehangu ei chymorth er mwyn cwmpasu ymchwil canser ehangach ar draws y Brifysgol.
Dyma a ddywedodd yr Athro Duncan Baird, arweinydd Meddygaeth Genetig a Genomig o fewn yr Is-adran Canser a Geneteg ac aelod o Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau’r Brifysgol: “Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Myristica am ei rhodd hael ac am ei chefnogaeth barhaus i’n hymchwil. Mae’r cyllid hwn yn golygu y bydd y genhedlaeth newydd o wyddonwyr canser yn cael eu hyfforddi yma yng Nghymru i barhau â’r frwydr yn erbyn y clefyd erchyll hwn.”
Meddai Ymddiriedolaeth Myristica: “Mae’r rhodd hon yn dyst i’r berthynas hirsefydlog sydd gan yr Ymddiriedolaeth â Phrifysgol Caerdydd a’r parch sydd gennym at waith labordy’r Athro Baird. Rydym bellach ar ben ein digon i fedru ehangu hyn i gefnogi rhodd fwyaf yr Ymddiriedolaeth hyd yma. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld yr ysgoloriaethau ymchwil hyn yn dwyn ffrwyth, ynghyd â’r darganfyddiadau ymchwil canser a ddaw yn eu sgil.”
Gwahodd Ceisiadau
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan ddarpar oruchwylwyr i gyflwyno prosiectau ar gyfer tair Ysgoloriaeth PhD sy’n dechrau ym mis Hydref 2024. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch cancercomms@caerdydd.ac.uk.