Cysylltiadau newydd rhwng clefyd Alzheimer dechreuad hwyr a’r system imiwnedd
18 Ionawr 2024
Mae ymchwilwyr wedi amlygu cysylltiadau newydd rhwng clefyd Alzheimer a’r gwahanfur gwaed-ymennydd, gan nodi cysylltiadau rhwng amrywiolion o’r genyn EphA1 a’r clefyd.
Mae astudiaethau o gysylltiadau ar draws y genom wedi cysylltu amrywiolion o EphA1 â chlefyd Alzheimer, ac mae amrywiolyn genetig penodol – P460L – yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu clefyd Alzheimer dechreuad hwyr.
Dywedodd yr Athro Ann Ager, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni’n gwybod bod y genyn EphA1 yn chwarae rôl yn y broses o recriwtio celloedd imiwnedd. Ein damcaniaeth oedd y gallai’r amrywiolyn P460L amharu ar weithgarwch EphA1 a dylanwadu ar lid ar yr ymennydd, gan arwain at risg uwch o ddatblygu clefyd Alzheimer.”
Er mwyn ymchwilio i hyn, defnyddiwyd modelau o gelloedd i astudio gweithgarwch P460L mewn celloedd T a chelloedd endothelaidd y gwahanfur gwaed-ymennydd.
Fel arfer, mae EphA1 yn ymwneud ag ymateb imiwn celloedd T yn yr ymennydd. Canfuwyd bod P460L yn effeithio ar ymateb imiwn celloedd T yn yr ymennydd.
Dywedodd Helen Owens, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Bu i ni ddarganfod bod yr amrywiolyn P460L yn amharu ar ymddygiad arferol y genyn EphA1 ac yn effeithio ar ymatebion imiwn a gwaedlestri yn yr ymennydd. Mae ein hastudiaeth yn awgrymu bod P460L yn newid y signalau sy'n dibynnu ar EphA1, ac mae i hyn oblygiadau i swyddogaeth y gwahanfur gwaed-ymennydd mewn pobl â chlefyd Alzheimer dechreuad hwyr.
“Bydd astudiaethau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar nodi rôl P460L ym mioleg celloedd T er mwyn asesu ei effaith ar gelloedd T a’r gwahanfur gwaed-ymennydd. Bydd y gwaith hwn yn helpu i roi gwybod p’un a oes gan weithgarwch targedu P460L botensial therapiwtig i drin clefyd Alzheimer dechreuad hwyr yn y dyfodol.”
Cyhoeddwyd y papur 'Alzheimer's disease-associated P460L variant of EphA1 dysregulates receptor activity and blood-brain barrier function' yng nghyfnodolyn Alzheimer's & Dementia.