Dathlu Athro o Gaerdydd mewn digwyddiad gwobrwyo ym maes cyfraith ryngwladol
18 Ionawr 2024
![Llun o’r Athro Edwin Egede (canol) gyda'r Athro Makane Mbengue, Llywydd Cymdeithas Cyfraith Ryngwladol Affrica a Tafadzwa Pasipanodya, Is-lywydd y Gymdeithas a phartner yn y cwmni cyfreithiol rhyngwladol, Foley Hoag LLP.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/2789089/Afsil-1-Cropped.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Athro yng Nghaerdydd ym maes Cyfraith Ryngwladol a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniadau ymchwil rhagorol mewn seremoni wobrwyo arweinyddiaeth fyd-eang.
Cyflwynwyd Gwobr Arweinyddiaeth Fyd-eang Cyfraith Ryngwladol 2023 i'r Athro Edwin Egede gan Gymdeithas Cyfraith Ryngwladol Affrica (AfSIL) yn eu cynhadledd flynyddol yn Addis Ababa, Ethiopia ym mis Hydref 2023. Mae'r AfSIL yn rhwydwaith o ymarferwyr, ysgolheigion, technolegwyr, a myfyrwyr sy'n ymwneud â chyfraith ryngwladol o ran y modd mae hi’n cael ei hymarfer, ei gweithredu a'i llywio yn Affrica. Mae gwobr yr Athro Egede yn ddathliad o’i gyfraniadau ymchwil rhagorol i Lywodraethu Adnoddau’r Byd o ran y modd mae’n effeithio ar Affrica.
Thema'r gynhadledd eleni oedd Affrica a Llywodraethu Adnoddau’r Byd ac ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd, cadeiriodd yr Athro Egede banel a chyflwynodd sylw agoriadol ar "Greu Cyfreithiau Rhyngwladol parthed Adnoddau’r Byd" ym Mhencadlys yr Undeb Affricanaidd yn Addis Ababa.
Meddai'r Athro Egede, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Cyfraith Ryngwladol ac Amlochroldeb Prifysgol Caerdydd: "Roedd yn anrhydedd ac yn bleser mawr derbyn Gwobr Arweinyddiaeth Fyd-eang Cyfraith Ryngwladol 2023 gan Gymdeithas Cyfraith Ryngwladol Affrica (AfSIL), y Gymdeithas Cyfraith Ryngwladol flaenllaw sy'n canolbwyntio ar faterion yn ymwneud ag Affrica, y prif ranbarth daearyddol y mae fy ymchwil yn canolbwyntio arno. "