Mae Prosiect y Fryngaer Gudd wedi ennill gwobr o bwys
18 Ionawr 2024
Cydnabuwyd yr hyn y mae prosiect archaeoleg gymunedol lwyddiannus wedi’i gyflawni mewn seremoni wobrwyo genedlaethol.
Enillodd Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER) wobr yng nghategori Ymgysylltu a Chymryd Rhan y Seremoni Wobrwyo Cyflawni Archaeolegol.
Partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion a thrigolion lleol a phartneriaid treftadaeth yw CAER. Canolbwynt y prosiect yw Bryngaer Caerau, safle treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol.
Dros y degawd diwethaf, mae’r prosiect wedi codi proffil y safle, gan arwain at adeiladu canolfan gymunedol newydd, ochr yn ochr â chloddio archaeolegol o bwys yn yr ardal.
Disgrifiodd y beirniaid yr effaith y mae’r prosiect wedi ei chael ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn un ‘ryfeddol’ Ychwanegon nhw: “Roedd adfywio'r gymuned yn rhan enfawr o'r prosiect hwn, gan fod archaeoleg yn dod â phobl ynghyd, gan helpu i greu ymdeimlad o berthyn ac agosrwydd oedd ar goll o'r blaen ac yr oedd ei ddybryd angen.”
Dyma a ddywedodd cyd-gyfarwyddwr Prosiect Treftadaeth CAER, Dr Oliver Davis, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein boddau’n ennill y wobr hon, a dderbyniais ar ran yr holl bobl sydd wedi ymroi o'u hamser i sicrhau llwyddiant CAER heddiw. Does dim amheuaeth nad yw llwyddiant y prosiect yn deillio o sgiliau, gwybodaeth ac ymrwymiad anhygoel yr holl wirfoddolwyr, pobl a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect, ac mae'r wobr hon yn cydnabod yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni mewn ffordd mor anhygoel yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Alla i ddim aros i weld beth gallwn ni i gyd ei gyflawni gyda'n gilydd yn ystod y 10 mlynedd nesaf.”
Dyma a ddywedodd y Rheolwr Gweithredol a Datblygu sy'n arwain prosiect Caer ar ran ACE, Sam Froud Powell: “Rydyn ni wrth ein boddau’n clywed bod partneriaeth CAER wedi ennill Gwobr Cyflawni Archaeolegol. Dyma brawf o angerdd, egni a brwdfrydedd pawb sydd ynghlwm wrth y prosiect ac mae'n cydnabod yr effaith hirdymor enfawr y mae'r bartneriaeth hon wedi'i chael ar ein cymuned.”
Cydlynir y seremoni wobrwyo, a alwyd gynt yn Seremoni Wobrwyo Archaeoleg Prydain, gan Gyngor Archaeoleg Prydain (CBA) gyda chymorth panel dyfarnu a’i nod yw dathlu cyflawniadau archaeolegol pob rhan o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon.