Gwybodaeth heb fod yn gywir ynghylch effeithiau llwch ar yr hinsawdd ac ar iechyd, yn ôl canfyddiadau astudiaeth
17 Ionawr 2024
Mae angen ail-werthuso tarddiad a symiau gwahanol fathau o lwch mwynol sy'n cyrraedd atmosffer y Ddaear fel y gellir cael dealltwriaeth mwy cywir o‘r effaith y mae’n ei chael ar iechyd pobl a newid yn yr hinsawdd, yn ôl gwyddonwyr.
Dywed y tîm rhyngwladol, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, fod modelau presennol wedi goramcangyfrif rôl Gogledd Affrica o ran bod yn brif darddle allyriadau sy’n lwch yn y byd, a hynny ers bron i ddeng mlynedd ar hugain gan arwain at wallau yn ein dealltwriaeth o’r effeithiau ar goedwigoedd glaw, cefnforoedd ac iâ.
Yn lle hynny, gan ddefnyddio model amgen, maent yn dangos sut mae allyriadau sy’n lwch yn symud yn dymhorol a rhwng hemisfferau ar draws yr anialwch yn Nwyrain Asia, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica yn ogystal ag ardaloedd y llwyni yn Awstralia a Gogledd America.
Wrth gyflwyno eu canfyddiadau yn Science of The Total Environment a’r Journal of Geophysical Research-Atmospheress mae’r tîm yn dangos cyfres o wendidau mewn modelau cyfredol o allyriadau llwch.
Dywedodd yr awdur arweiniol Adrian Chappell, Athro ym maes Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear ac Amgylcheddol Prifysgol Caerdydd: “Mae presenoldeb gronynnau llwch yn ein hatmosffer yn gwbl normal ac rydyn ni’n gweld eu heffeithiau mewn nifer o ffyrdd; o’r llwch hwnnw sy’n cronni ar ffenestri blaen ein ceir i wawr a machlud lliw oren a choch llachar.
“I raddau amrywiol, mae’r allyriadau hyn yn cael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar ein hamgylchedd. Mae maetholion mewn llwch dyddodiedig yn rhoi gwrtaith i’n cefnforoedd a'n coedwigoedd glaw ond gallant hefyd niweidio planhigion a choed ac amharu ar ffotosynthesis. Yn yr un modd, mae llwch sy'n cael ei ddyddodi ar iâ yn cynyddu cyflymder y dadmer trwy fynd yn groes i briodweddau adlewyrchol iâ.
“Yn y cyd-destunau hyn, mae’n hanfodol bod gennym ddealltwriaeth gywir ynghylch o ble mae allyriadau llwch yn dod, ym mha symiau, sut mae’n cael ei gludo ar hyd a lled y blaned a ble mae’n cyrraedd yn y pen draw.”
Mae modelau presennol o allyriadau llwch yn cael eu cyfrifo ar y sail bod wyneb y Ddaear yn foel.
Gwneir addasiadau er mwyn cyfrif am lystyfiant ffotosynthetig 'gwyrdd', sy'n cael ei ganfod trwy loerennau ac y credir ei fod yn lleihau faint o lwch sy'n cael ei ryddhau i’r atmosffer.
Fodd bynnag, nid yw modelau presennol yn cynnwys llystyfiant 'brown' sydd heb fod yn defnyddio’r broses ffotosynthesis ac sy'n gyffredin mewn tiroedd sych – lle mae'r rhan fwyaf o darddiadau llwch i'w cael; mae’r llystyfiant hwn hefyd yn lleihau allyriadau sy’n lwch.
I fynd i'r afael â'r amryfusedd hwn, defnyddiodd y tîm gysgodion a ganfuwyd o loerennau i fesur garwedd arwynebau, allyriadau a oeddent heb gael eu cyfrif ac amrywiadau tymhorol y rhain o darddleodd byd-eang.
Maent yn dangos bod swm y llwch a allyrrir yn fyd-eang yn llawer llai nag a amcangyfrifwyd yn flaenorol ac yn datgelu bod allyriadau llwch, mwyaf y Ddaear, yn digwydd mewn gwahanol ranbarthau drwy ystod gwahanol dymhorau.
Ychwanegodd yr Athro Chappell: “Rhan fechan iawn o’r stori yn unig mae’r modelau presennol wedi bod yn ei hadrodd, ac mae’r rhan honno wedi’i seilio bron yn gyfan gwbl ar Sahara Gogledd yr Affrig ac heb ystyried fawr ddim llwch, os o gwbl, yn hemisffer y de. Mae ein hailwerthusiad yn dangos darlun hollol wahanol drwy gydnabod arwyddocâd cylch tymhorol a gwirioneddol fyd-eang allyriadau llwch.
“Mae hyn yn hanfodol oherwydd mae priodweddau llwch yn wahanol yn dibynnu ar y man mae'n tarddu ohono. Nid yn unig hynny, ond mae hefyd yn newid wrth i’r llwch gael ei gludo y tu mewn i atmosffer y Ddaear i wahanol lefydd, lle mae’n setlo ar diroedd, yn ein cefnforoedd ac ar gapiau iâ.
“Er mwyn gwneud rhagamcanion cywir a deall gwir effeithiau llwch ar ein hinsawdd ac ar iechyd pobl mae’n rhaid i ni gael gwared yn llwyr ar y gwallau sylfaenol hyn o ran arferion modelu presennol.”
Mae'r tîm yn datblygu ei fodel o allyriadau sy’n lwch, ymhellach, i ddefnyddio data cyflymder gwynt ar raddfa fanwl i ddisgrifio'n fwy cywir y ffordd y mae arwynebau pridd yn cael eu hamddiffyn rhag erydiad gwynt ac allyriadau llwch.
Fe esbonion nhw y bydd y diweddariad yn golygu bod y model yn rhoi cynrychiolaeth fwy realistig o wyneb y Ddaear na'r rhai sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.
Maent yn gobeithio y bydd eu model yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â thechnegau eraill sy’n monitro’r atmosffer, a hynny er mwyn cael gwell dealltwriaeth o effeithiau llwch ar y cylchrediad carbon, diraddio tir, diogelwch bwyd a datblygu cynaliadwy.