Ailgysylltu â'n cymuned bartner yn Tsieina
16 Ionawr 2024
Ymwelodd yr Athro Eleri Rosier a Dr Jane Haider â Tsieina’n ddiweddar i feithrin perthynas â phartneriaid rhyngwladol Ysgol Busnes Caerdydd.
Dyma Eleri’n sôn wrthym ni am y daith …
“Roeddwn i’n falch iawn o ailgysylltu â phartneriaid gwerthfawr Prifysgol Caerdydd yn Tsieina.
Rydyn ni’n croesawu myfyrwyr o Tsieina i Ysgol Busnes Caerdydd bob blwyddyn, a chan fod Tsieina’n farchnad mor bwysig i Brifysgol Caerdydd, roedd ein taith o gymorth i ni gael dealltwriaeth dda o’r dirwedd recriwtio myfyrwyr ar ôl COVID-19.
Roedd yn wych cwrdd â phartneriaid wyneb-yn-wyneb, ar ôl i’r pandemig wneud teithio’n beth mor heriol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Ymwelais i â Tsieina’n rhan o’m swydd yn Gyfarwyddwr Derbyn a Recriwtio Ôl-raddedigion yn Ysgol Busnes Caerdydd, ar y cyd â Dr Jane Haider, Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc Polisïau Morol a Rheoli Llongau. Ymunodd Sarah Sherrington, Rheolwr Recriwtio Myfyrwyr Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol â ni, hefyd.
Beijing
Cyrhaeddodd Sarah, Jane a minnau Beijing yn ddiogel, a chawson ni ychydig oriau i grwydro ac ymgyfarwyddo â’r lle. Cerddon ni drwy barc hyfryd Beihai ac o amgylch ffos y Ddinas Waharddedig, cyn gwledda ar hwyaden Peking hyfryd!
Cawson ni gyfarfod a chinio ysbrydoledig gydag Is-lywydd a phartner sefydlu Superlink/OriginSight. Rhoddodd werthusiad gonest i ni o gyflwr marchnad Tsieina a’r newidiadau ynddi. Roedd ei swyddfa yn yr ardal fusnes ac yn cynnig golygfeydd anhygoel o'r adeiladau uchel yno; roedden nhw’r un mor drawiadol â’r rhai o Canary Wharf yn Llundain!
Tra yn Beijing, cyflwynon ni drosolwg o raglenni Ysgol Busnes Caerdydd i randdeiliaid allweddol mewn tair asiantaeth bartner. Yn y cyfamser, roedd Sarah yn brysur yn ailgysylltu â sefydliadau partner Prifysgol Caerdydd.
Chongqing
Bu i ni ymweld â rhanddeiliaid allweddol a chael cinio gydag academyddion marchnata (a rhoi cynnig ar fwyta slefrod môr am y tro cyntaf; roedd hynny’n brofiad diddorol!) Rhoddon ni gyflwyniad i fyfyrwyr eu hysgol busnes, a fydd nawr yn gymwys i ymuno â ni ar gyfer ein cytundeb newydd.
Wuhan
Roedd hi’n ddiwrnod heulog a braf o hydref yn Wuhan ar gyfer ein hymweliad â Phrifysgol Economeg a’r Gyfraith Zhongnan (ZUEL). Cyfarfu Sarah a minnau â Baoshun Wang (Ahbao), Athro Trethiant a Chyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol yn yr Ysgol Cyllid Cyhoeddus a Threthiant. Dros y blynyddoedd, mae wedi helpu i weinyddu ein cytundeb partneriaeth, ac mae’n gweithio gyda llawer o’n cydweithwyr Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Rhoddon ni gyflwyniad i fyfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf a threulio amser yn trafod addysg ôl-raddedig gyda nhw ac yn hyrwyddo Prifysgol Caerdydd! Aethpwyd â ni wedyn i dŷ te hyfryd, ac yna i gael cinio gydag Ahbao a’i gydweithwyr, gan gynnwys y Deon a Rheolwr yr Ysgol.
Shanghai
Cafodd Sarah a Jane ddiwrnod cynhyrchiol iawn yn ymweld â phrifysgol bartner. Aethpwyd â nhw ar daith o amgylch y campws anferth a hardd, cyn i Jane gyflwyno ei gwaith ymchwil i'r gyfadran. Yn y cyfamser, ces i gyfarfod â thîm mewnol Prifysgol Caerdydd yn Tsieina.
Cwrddon ni â phartner newydd, sef Education International Cooperation (EIC). Aeth â ni ar daith o amgylch y swyddfa, oedd yn cynnig golygfeydd anhygoel o orwel Shanghai. Mae Zoe, Rheolwr y Tîm yn EIC, yn un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ar ôl dilyn ein rhaglen MSc Economeg, Busnes a Chyllid Rhyngwladol. Mae hi'n gaffaeliad gwych ac yn gefnogwr brwd o Ysgol Busnes Caerdydd! Tra yn EIC, gwnes i rywfaint o hyfforddiant gyda'r cwnselwyr yno.
I ddod â’r daith i ben, cawson ni gyfarfod cynhyrchiol ag asiantaeth Golden Arrow ynglŷn â chyfeiriadau ein partneriaeth hirsefydlog yn y dyfodol.
Ar gyfer ein noson olaf, buon ni’n crwydro’r ddinas, cyn ymadael yn gynnar iawn i fynd i’r maes awyr a chyrraedd Caerdydd yn ddiogel ar ôl naw diwrnod cynhyrchiol a phrysur iawn yn Tsieina.”