Angen brys i ehangu monitro genetig ar rywogaethau yn Ewrop
15 Ionawr 2024
Mae angen brys i ehangu'r monitro genetig ar rywogaethau yn Ewrop i helpu i ganfod effeithiau newidiadau yn yr hinsawdd ar boblogaethau.
Dyna un o ganfyddiadau ymchwil newydd a wnaed gan dîm rhyngwladol sy’n cynnwys y diweddar Athro Mike Bruford o Brifysgol Caerdydd – cadwraethwr o’r radd flaenaf – yn yr astudiaeth olaf yr ymgymerodd â hi cyn ei farwolaeth.
Mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Ecology & Evolution, edrychodd y tîm ar gwmpas yr ymdrechion i fonitro amrywiaeth genetig yn Ewrop i ganfod a yw'r ymdrechion hynny mewn sefyllfa dda i ganfod effaith newid yn yr hinsawdd ar amrywiaeth genetig.
Mapion nhw ardaloedd pedwar grŵp o rywogaeth - amffibiaid, adar, cigysyddion mawr, a choed coedwig.
Ychydig iawn o fonitro a ganfuwyd ganddynt o amrywiaeth genetig rhywogaethau yn Ewrop yn gyffredinol, ac mae’r monitro sydd wedi bod wedi gwyro’n drwm i gyfeiriad cigysyddion mawr ac nid tuag at rywogaethau yn y grwpiau y bydd newid yn yr hinsawdd sydd yn effeithio’n fawr arnynt megis amffibiaid a choed coedwig.
Darganfuon nhw hefyd mai cymharol ychydig o fonitro genetig a wneir yng ngwledydd de-ddwyrain Ewrop lle mae llawer o rywogaethau'n debygol o brofi effeithiau newid yn yr hinsawdd gyntaf.
Gan siarad ar ran y tîm ymchwil, dyma a ddywedodd yr Athro Peter Pearman, Prifysgol Gwlad y Basg: “Rydyn ni’n cyflwyno’r papur hwn er cof am ein cydweithiwr a’n ffrind, yr Athro Mike Bruford – gwyddonydd angerddol yr oedd ei yrfa yn ymrwymedig i ddeall ac atal y broses o golli bioamrywiaeth.
“Syniad Mike oedd yr ymchwil hon. Nid oes neb erioed wedi cynnal arolwg o’r ystod o ymdrechion i fonitro amrywiaeth genetig yn Ewrop – hyd yn hyn.
“Mae neges Mike yn y papur hwn yn alwad brys i ehangu ar ymdrechion yn Ewrop i fonitro amrywiaeth genetig, yn y rhywogaethau sy’n cael eu targedu a’r gwledydd lle mae monitro’n digwydd, at ddibenion cadwraeth effeithiol yn y dyfodol.”
Mae’r papur, Pearman, Broennimann et al. ‘Monitoring species genetic diversity in Europe varies greatly and overlooks potential climate change impacts’ ar gael yma.
Yn yr astudiaeth, fe ymgorfforwyd ymdrechion 52 o wyddonwyr sy'n cynrychioli 60 o brifysgolion a sefydliadau ymchwil o 31 o wledydd. Mae’r canlyniadau’n awgrymu y dylai rhaglenni Ewropeaidd ar gyfer monitro amrywiaeth genetig gael eu haddasu’n systematig i rychwantu graddiannau amgylcheddol llawn, ac i fod yn cynnwys pob rhanbarth sensitif a rhanbarth â lefel uchel o fioamrywiaeth.
Ychwanegodd yr Athro Pearman: “Cafodd ein hymchwil ei llunio a’i chynnal gan gadw polisi cadwraeth Ewropeaidd mewn cof a gobeithiwn y bydd llunwyr polisïau a gwleidyddion yn cymryd sylw o’r canlyniadau hyn.”
Roedd yr Athro Mike Bruford yn wyddonydd rhyngwladol o fri a oedd wedi helpu i sefydlu maes geneteg cadwraeth. Arweiniodd ei waith at weithredoedd yn y byd go iawn i gefnogi amddiffyn rhywogaethau mewn perygl ledled y byd, gan gynnwys yr Orangwtan Borneaidd a’r panda Tsieineaidd. Bu farw ym mis Ebrill 2023.
Dyma a ddywedodd yr Athro Joanne Cable, o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn gydweithiwr i’r Athro Bruford: “Mae’r Athro Mike Bruford wedi cyfrannu mewn modd sylweddol a hynod o nodedig at y maes Geneteg Gadwraethol. Datblygu ein dealltwriaeth o amrywiad genynnol a deinameg y boblogaeth ymysg rhywogaethau sy’n wynebu risg a wna ei waith arloesol, sydd wedi arwain at strategaethau cadwraeth fyd-eang sy’n fwy effeithiol. Mae ymchwil Mike wedi taflu goleuni nid yn unig ar seiliau genetig i gadwraeth rywogaethau, ond hefyd pwysigrwydd data genetig yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau ar gyfer rheoli a diogelu bioamrywiaeth. Caiff ei ymroddiad wrth geisio pontio'r bwlch rhwng ymchwil genetig ac ymarfer cadwraeth effaith hirhoedlog ar y maes. Mae’n dda o beth bod hwn, un o’i bapurau olaf, yn arwain y ffordd ac yn erfyn ar eraill i ddal ati i fod yn angerddol dros ddiogelu byd natur.”