Cynllunio ymlaen llaw – Myfyrwyr Meistr wedi sicrhau cyllid bwrsariaethau
18 Rhagfyr 2023
Mae tri myfyriwr ôl-raddedig yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn dathlu ar ôl ennill bwrsariaethau o bwys i ariannu eu hastudiaethau.
Bydd Owen Wallace, Jake Robbins a Charlotte Loder yn astudio am MSc Trafnidiaeth a Chynllunio.
Cafodd Owen fwrsariaeth gan Gronfa Bwrsariaethau Brian Large, a sefydlwyd yn 1990 yn deyrnged i Brian Large, un o gyfarwyddwyr Grŵp MVA (ymgynghorwyr cynllunio trafnidiaeth).
Dyfernir y bwrsariaethau er mwyn parhau â gwaith Brian i gefnogi datblygiad proffesiynol a sgiliau'r rheini ar ddechrau eu gyrfaoedd ac i sicrhau y gall myfyrwyr cymwys gwblhau eu hastudiaethau ym maes trafnidiaeth a chynllunio.
Cafodd Jake a Charlotte fwrsariaeth gan Gronfa Ffyrdd Rees Jeffreys i ddilyn eu hastudiaethau ôl-raddedig.
Sefydlwyd Cronfa Ffyrdd Rees Jeffreys gan William Rees Jeffreys, arloeswr ym maes gwella teithio i ddefnyddwyr ffyrdd a ddatblygodd y system dosbarthu ffyrdd genedlaethol, ym 1950. Ers ei farwolaeth ym 1954, mae gwaddol ei ystad wedi rhoi cefnogaeth ariannol i addysg ac ymchwil ym maes trafnidiaeth.
Yr MSc Trafnidiaeth a Chynllunio yw un o raglenni ôl-raddedig pwysicaf yr ysgol. Mae ganddi hanes hir a llwyddiannus o helpu myfyrwyr sy’n cyrraedd yr Ysgol i sicrhau bwrsariaethau a chyllid i gyflawni eu dyheadau academaidd.
Dyma a ddywedodd Dr Dimitris Potoglou, Cyfarwyddwr y Rhaglen: “Ar ran yr ysgol hoffwn i longyfarch Owen, Jake a Charlotte ar y canlyniad rhagorol hwn – rydyn ni’n falch iawn o allu eu croesawu i’n rhaglen Trafnidiaeth a Chynllunio ôl-raddedig. Mae ein myfyrwyr yn gallu dangos yr wybodaeth a'r galluoedd sydd eu hangen ar gyfer y bwrsariaethau hynod gystadleuol hyn.
“Mae dyfarnu’r bwrsariaethau hyn yn gymeradwyaeth o safon a thrylwyredd ein rhaglen, wrth inni barhau i sicrhau bod 100% o’r ceisiadau hyn yn llwyddo flwyddyn ar ôl blwyddyn.”