Mae ymchwilwyr wedi dangos sut y bydd ystlumod yn dychwelyd adref i glwydo
15 Ionawr 2024
Bydd ystlumod yn hedfan yn ôl i glwydo gan wneud "neidiau llyffant" gan sicrhau drwy hyn eu bod yn gallu bod allan cyhyd ag y bo modd yn fforio bwyd, yn ôl ymchwilwyr.
Datblygodd y tîm o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Sussex fodel yn sgil data taflwybr ar ystlumod trwyn pedol mwyaf, sef un o’r 18 rhywogaeth yn y DU - er mwyn deall yn well sut maen nhw'n symud ac yn ymwneud â'u cynefin.
Mae'r astudiaeth, y gyntaf o'i math ym maes ystlumod, yn dangos y gellir gwahanu eu mudiant yn ddau gam o bwys - yr ymledu cychwynnol a’r cam dychwelyd.
Hwyrach y bydd eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y Bulletin of Mathematical Biology, yn helpu ecolegwyr, cadwraethwyr a'r rheini sy'n gweithio yn y sector adeiladu.
Dyma a ddywedodd y prif awdur Dr Thomas E. Woolley, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: "Mae'r ymledu cychwynnol yn beth cyffredin i lawer o anifeiliaid fforiol ac mae nodweddion y mudiant yn y data yn eithaf hawdd eu deall, a siarad yn fathemategol. Yn benodol, mae model lledaenu syml yn gyson â'r mudiant gwasgaru cychwynnol, pan fydd yr ystlumod yn ymledu i ddod o hyd i le i fforio bwyd.
"Mae'r cam dychwelyd yn llawer anos i’w ddeall yn enwedig oherwydd bod y data'n hynod o anodd i ddod o hyd iddo. Ac felly, hyd yn hyn, ymddengys nad oes gwaith wedi bod ar fodelu'r math hwn o daith nôl i glwydo gan y gallai hyn fod o bwys mawr i gadwraethwyr sy'n gweithio'n ddiflino i frwydro yn erbyn dirywio yn y boblogaeth."
Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddata’r taflwybr – un o'r ychydig setiau o'i math – a gafwyd yn Nyfnaint rhwng Mai a Mehefin 2016 gan Fiona Mathews, Athro Bioleg Amgylcheddol o Brifysgol Sussex a thîm o wirfoddolwyr ac ecolegwyr hyfforddedig.
Cynhalion nhw arolwg olrhain drwy radio a oedd yn monitro 12 ystlum trwyn pedol mwyaf dros gyfnod o 24 noson.
Dadansoddwyd taflwybrau 7 ystlum dros gyfnod 14 noson o'r data, gan sicrhau ym mhob achos mai’r un oedd lle clwydo’r ystlum ar y dechrau a’r diwedd.
Dyma a ddywedodd yr Athro Mathews: "Mae ystlumod trwyn pedol mwyaf o dan fygythiad ledled Ewrop. Mae cynnydd wedi bod o ran amddiffyn eu clwydau, ond gwyddom lawer yn llai am sut i warchod eu mannau fforio oherwydd bod olrhain anifail sy'n symud yn gyflym yn y tywyllwch yn heriol iawn: gallan ni fynd yn gyflymach na char ar lôn wledig, yn saff ichi!
"Mae ystlumod yn tueddu i ymgasglu’n haid yn y lleoedd hynny y byddan nhw’n gorffwys, sef ffenomen a geir hefyd yn achos rhywogaethau megis gwenyn, morgrug, ydfrain a phengwiniaid. Fodd bynnag, er mwyn osgoi cystadlu â'i gilydd, mae’n rhaid iddyn nhw ymwasgaru o'r lleoliad hwn er mwyn bwydo."
Mae'r tîm yn bwriadu profi eu damcaniaeth ymhellach gan ddefnyddio meicroffonau synhwyro statig i olrhain dwysedd galwadau ystlumod ar hyd y nos.
Byddai data meicroffon, sy’n llai dwys o ran llafur nag olrhain ystlumod ac yn ffynhonnell gyson o gadw gwyliadwriaeth ar hyd y nos, yn golygu y gall y tîm weld pryd a ble mae dwysedd yr ystlumod sy'n dychwelyd yn tueddu i ymgasglu - yn y lle clwydo neu rywle y tu fewn i ffin eu hystod fforio.
Ychwanegodd Dr Woolley: "Drwy ddeall symudiad ystlumod yn well, gallwn ragfynegi lleoliadau clwydo’n fwy cywir ac, wrth wneud hynny, helpu ymdrechion cadwraeth."
"Mae hyn yn bwysig oherwydd bod ystlumod yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol yn y DU ac mae llawer yn dioddef dirywiad yn y boblogaeth oherwydd colli cynefinoedd."
Cyhoeddir yr astudiaeth, ‘Bat motion can be described by leap frogging’ yn y Bulletin of Mathematical Biology ac mae'n rhan o brosiect hirdymor ar y cyd rhwng Dr Woolley a'r Athro Mathews ar fodelu ymddygiad ystlumod.
Yn 2022, gwnaethon nhw ryddhau ap ar-lein sy'n defnyddio data sydd ar gael i'r cyhoedd i ragweld llinellau hedfan ystlumod.
Mae'r tîm yn dweud bod adnoddau fel hwn yn bwysig yn y sector adeiladu lle mae'r pwysau’n cynyddu i leihau effaith amgylcheddol safleoedd adeiladu ar y cynefinoedd cyfagos.