Prifysgol Caerdydd yn benthyg ei harbenigedd i brosiect newydd Horizon Europe
9 Ionawr 2024
Bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn prosiect newydd gwerth €9.75 miliwn i gasglu allbynnau’r gwyddorau cymdeithasol allweddol i lywio cynllun adfer NextGenerationEU a pholisi ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd.
Wedi'i ariannu gan y Comisiwn Ewropeaidd, bydd prosiect Infra4NextGen yn ail-bwrpasu ac yn addasu gwasanaethau ymchwil presennol i gefnogi pum thema rhaglenNextGenerationEU.
Nod NextGenerationEU yw i Ewrop 'adeiladu dyfodol gwyrddach, mwy digidol a mwy gwydn' gan ganolbwyntio ar bum maes allweddol: Ei Gwneud yn Wyrdd; Ei Gwneud yn Ddigidol; Ei Gwneud yn Iach; Ei Gwneud yn Gryf; A'i Gwneud yn Gyfartal.
Bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain ar y ffrwd waith 'Ei Gwneud yn Wyrdd' drwy greu rhestr o ddata sy’n bodoli eisoes wedi’u cofnodi mewn arolygon a gaiff eu cynnal mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Eurobarometer, Arolwg Ansawdd Bywyd Ewrop, yr Arolwg Cymdeithasol Ewropeaidd, GGP, yr EVS, a'r Rhaglen Arolwg Cymdeithasol Rhyngwladol, yn ogystal â chasglu data newydd.
Bydd y tîm yn dadansoddi ac yn crynhoi'r data sy’n bodoli eisoes o'r arolygon hyn i greu cyfres o adnoddau sy'n berthnasol i bolisi gyda sylwebaeth yn cael ei chyflwyno mewn porth ar-lein pwrpasol.
Dywedodd yr Athro Wouter Poortinga, o Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, sy’n arweinydd ar y prosiect: “Rwy'n falch o gyfrannu arbenigedd at gonglfaen pwysig y prosiect 'Ei Gwneud yn Wyrdd'
Bydd dadansoddiad cychwynnol y tîm yn cael ei ategu â data newydd a gesglir yn ddiweddarach yn y prosiect trwy blatfform ar-lein sy'n hygyrch ar draws 11 gwlad Ewropeaidd.
Croesawodd yr Athro Rory Fitzgerald, Cyfarwyddwr Consortiwm Seilwaith Ymchwil Ewropeaidd yr Arolwg Cymdeithasol Ewropeaidd a Chydlynydd Infra4NextGen, y dyfarniad: “Mae gan seilweithiau ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn Ewrop gyfoeth o ddata sy'n berthnasol i flaenoriaethau NextGenerationEU a pholisi ieuenctid yr UE.
“Mae'r data hwnnw'n wasgaredig ar hyn o bryd ac weithiau yn anodd i'w cyrchu. Mae'r prosiect newydd cyffrous hwn yn dod â mentrau gwyddorau cymdeithasol blaenllaw Ewrop ynghyd i greu allbynnau sy'n berthnasol i bolisi cytûn a fydd o ddefnydd i lunwyr polisi ac academyddion fel ei gilydd.
“Trwy ddarparu crynodebau data mwy hygyrch, effeithiol a theilwra ac ategu hyn â data newydd o'r panel gwe a fforymau trafod, bydd Infra4NextGen yn helpu i gefnogi llunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwell trafodaeth ar sail gwybodaeth.”