Ymchwil gan academydd sy’n trin a thrafod moesoldeb yn y farchnad a sut mae brandiau'n ymateb i anghyfiawnder cymdeithasol
10 Ionawr 2024
Mae brandiau mawr yn eich gwylio wrth i chithau eu gwylio, meddai academydd o Brifysgol Caerdydd.
Yn ei llyfr newydd, mae Dr Francesca Sobande yn dwyn ynghyd ei dadansoddiad o’r cyfryngau, cyfweliadau, ymatebion yn sgil arolwg, a deunyddiau o hanes hysbysebu yn ogystal ag arddangosfeydd yn Llundain, siopau brand yn Amsterdam, gŵyl gerddoriaeth yn Las Vegas, ac archifau yn Washington DC, i dynnu sylw at fyd brandio.
Mae Big Brands Are Watching You: Marketing Social Justice and Digital Culture, yn ymchwilio i ddiwylliant corfforaethol, boed sut mae cwmnïau a chenhedloedd yn cael eu brandio neu bortreadau ar y teledu o fusnesau mawr a'r gweithle.
Wrth iddi egluro cysyniadau “cyfiawnder cymdeithasol untro” a “dyletswyddau dros dro”, mae Dr Sobande yn trafod pryd, pam, a sut mae brandiau yn gwneud sylwadau ar rai materion anghyfiawnder ac yn anwybyddu rhai eraill. Gan holi a stilio'n feirniadol rôl diwylliant y dylanwadwyr o ran ymgyrchu cymdeithasol a gwleidyddol, mae ei gwaith yn trin a thrafod ystod eang o enghreifftiau o fyd hysbysebu, ymgyrchoedd digidol, byd enwogion a diwylliant poblogaidd.
Mae Sobande yn mynd i’r afael â’r ddeinameg anodd rhwng brandiau, diwylliant digidol a’r gymdeithas drwy astudio enghreifftiau megis arwyddocâd y gyfres deledu Succession a gwyliau cerddorol megis When We Were Young.
Dyma a ddywedodd Dr Sobande, sy’n gweithio yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: “Rwy wedi bod yn ymchwilio i’rffyrdd gwahanol y mae brandiau mawr yn gwylio pobl, yn gwylio grwpiau penodol o bobl ac yn gwylio cymunedau. Ond mae pobl hefyd yn gwylio brandiau."
“Wrth drin a thrafod brandiau ar-lein mewn ffordd feirniadol, a fyddai creu rhagor o ‘ddata' o fudd iddyn nhw? Sut mae brandiau wedi manteisio ar gysyniad 'rhyfeloedd diwylliant'? Pwy sy’n elwa ar frandiau sy’n cynnig sylwadau ar ormes, neu’n peidio â chynnig sylwadau felly? Pryd mae amwysedd yn cael ei ddefnyddio i osgoi mynd i'r afael yn benodol â hiliaeth strwythurol? Beth mae 'cyfiawnder cymdeithasol' yn ei olygu heddiw a sut mae cysylltiadau grym geoddiwylliannol yn llunio moesoldeb? Er yr honnir bod prynwriaeth sy’n seiliedig ar werthoedd yn ehangu o hyd, felly hefyd yw’r feirniadaeth o’r cysyniad bod brandiau a chyfalafiaeth yn gallu ‘gofalu’ am bobl.
Mae llyfr newydd Dr Sobande yn barhad o fwy na saith mlynedd o ymchwil ar rym a gwleidyddiaeth y cyfryngau a’r farchnad, gan gynnwys y gwrthddywediadau wrth wraidd diwylliant y defnyddwyr. Gan ddadansoddi deunydd yn Archifau Llyfrgell y Gyngres a Sefydliad Smithsonian, mae Big Brands Are Watching You yn taflu goleuni ar hanes a chof diwylliannol brandio yn y DU ac UDA sydd ynghlwm y naill wrth y llall.
Ychwanegodd Dr Sobande: "Mewn dyfodol y byddwn ni’n parhau i gyfeirio ato hwyrach fel cyfnod o 'argyfwng parhaol', mae’n bosibl y bydd brandiau’n cystadlu â’i gilydd i gael eu hystyried yn flaengar yn eu sector neu eu diwydiant drwy ganolbwyntio ar hiraeth am gyfnodau gynt yr honnir eu bod yn cynnig cysur inni. Sut mae syniadau hiraethus am y gorffennol yn cuddio realiti hanes ac atal newidiadau a gweithredu posibl yn y presennol? Dyma rai o’r cwestiynau rwy’n eu hystyried, megis wrth drafod gwrthwynebiaeth ac ennill arian yn sgil negeseuon am foesoldeb.”