Cerddi sy’n cydio
8 Ionawr 2024
Trysorau Cymreig o Gasgliadau Arbennig y Brifysgol i'w gweld mewn arddangosfa genedlaethol ar y cyfnod Rhamantaidd
Mae chwe thrysor o Gasgliadau Arbennig ac Archifau'r Brifysgol yn taflu goleuni ar sut y defnyddiwyd barddoniaeth i dynnu sylw at faterion gwleidyddol a chymdeithasol yn ystod y cyfnod Rhamantaidd.
Mae Young Romantics in the City yn ymchwilio i’r awduron a’r dulliau ysgrifennu gwahanol yn ystod y cyfnod Rhamantaidd – ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif – drwy gyfrwng themâu cydgysylltiedig Gwleidyddiaeth, Dosbarth, Rhywedd a Hil, a hynny mewn partneriaeth a Keats House a Phrifysgol Caerdydd.
Dyma Dr Anna Mercer, cyd-guradur yr arddangosfa a Darlithydd Llenyddiaeth Saesneg, yn esbonio mwy:
‘Mae’r cyfnod Rhamantaidd yn aml yn gysylltiedig â dathlu'r byd naturiol a'r syniad bod yr awdur yn athrylith ar ei liwt ei hun sy’n ysgrifennu cerddi haniaethol a breuddwydiol. Heddiw, mae Rhamantiaeth yn cael ei hailddiffinio’n rhywbeth nodweddiadol wleidyddol, cydweithredol a metropolitanaidd.
Mae'r baledi gwreiddiol sydd i'w gweld – yn Gymraeg ac yn Saesneg – yn dangos pa mor bwysig oedd cerddi ar gyfer rhannu newyddion a straeon yng nghymunedau’r dosbarth gweithiol yn ystod y 19eg ganrif.’
Mae'r baledi sy'n gwneud eu ffordd i Lundain yn ymdrin â phynciau'r dydd, fel trosedd, llofruddiaeth a hel clecs dan ddylanwad alcohol.
Mae arddangosfa Young Romantics in the City yn cael ei chynnal tan fis Chwefror 2024 yn Keats House, sef cartref y bardd Rhamantaidd John Keats yn Hampstead. Mae’r arddangosfa’n rhad ac am ddim i fyfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd sy’n gallu dangos eu cysylltiad â ni.