Cylchlythyr Charter 4 2023
20 Rhagfyr 2023
Uchafbwyntiau 2023
Wrth edrych yn ôl dros 2023, rydym yn falch o fod wedi cefnogi sbectrwm eang o ymchwil y tu mewn a'r tu allan i Brifysgol Caerdydd, drwy wneud gwaith gwasanaeth a chefnogi defnyddwyr wrth iddynt gyrchu ein cyfleusterau.
Rydyn ni hefyd yn falch o'n hardystiadau Rheoli Ansawdd eleni a'n hymrwymiad parhaus i ddarparu hyfforddiant ar dechnolegau arbenigol. Darllenwch ymlaen i gael gwybod rhagor am y gweithgareddau hyn!
Diweddariad Rheoli Ansawdd
Yn dilyn archwiliadau allanol yn ystod Mis Mawrth a Mehefin, rydyn ni’n falch ein bod wedi cynnal ein hardystiad ISO 9001 a’n hachrediad Ymarfer Clinigol Da mewn Labordy (GCLP).
Mae hyn yn golygu bod ein system rheoli ansawdd yn parhau i ddangos ei gallu i gynnig gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid a rheoliadau’n gyson. Ni yw’r unig Gyfleuster Aml-graidd yn y DU sydd â’r achrediad hwn, sy’n cefnogi cwsmeriaid ym Mhrifysgol Caerdydd a’r tu hwnt iddi.
Mae’r achrediad drwy’r GCLP yn cyd-fynd â’n hardystiad ISO 9001 ac yn cadarnhau ein gallu i ymgymryd â biobrofion clinigol treialon.
Rydyn ni’n parhau i annog cwmnïau allanol ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i gysylltu â ni am ein gwasanaethau a’n cynghorion ynghylch rheoli ansawdd.
Hyfforddiant ar Dechnolegau Arbenigol
Rydyn ni wedi trefnu ystod eang o sesiynau hyfforddi ar dechnolegau arbenigol drwy gydol 2023.
Diolch yn fawr i'r sawl a ddaeth i’n digwyddiadau hyfforddi eleni, gan gynnwys gweithdy Mynegiad Genynnau Thermo Fisher, cyrsiau cytometreg Llif InCytometry a'r seminarau ar Ddadansoddydd Celloedd A3 BD FACSymphony™ a Phroffilydd Gofodol Digidol Nanolinynnau GeoMX Digital (sy'n cyd-fynd â’r Nanostring nCounter yn CBS).
Roedd hefyd yn bleser croesawu ymchwilwyr i'n labordy i ddysgu am dechnoleg cyseinedd plasmonau arwyneb Biacore a chefnogi Diwrnod Defnyddwyr 10x Genomics Prifysgol Caerdydd.
Parhewch i siarad â neu cysylltwch â'n tîm i ddysgu am y technolegau hyn, sut i gael mynediad atynt a sut y gallant gefnogi eich ymchwil. Mae croeso mawr ichi gysylltu â ni os ydych chi wedi colli unrhyw un o'r sesiynau hyfforddi hyn ac eisiau dysgu amdanyn nhw; mae gennym lawer o gyflwyniadau yn Llyfrgell Dechnegol CBS y gallwn drefnu ichi allu eu cyrchu.
Dychwelyd i rwydweithio drwy MediWales!
Rydyn ni’n falch o fod yn aelodau unwaith eto o MediWales, Rhwydwaith Gwyddor Bywyd Cymru. Rydyn ni wedi croesawu gallu hyrwyddo CBS a Phrifysgol Caerdydd tra’n rhwydweithio i ddysgu am y cymorth, yr opsiynau cyllido a’r technolegau a’r tueddiadau yn ein rhanbarth a thu hwnt.
Edrych ymlaen at 2024...
Rydyn ni’n parhau i annog cwmnïau allanol ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i gysylltu â ni am ein gwasanaethau a’n cynghorion ynghylch rheoli ansawdd.
Byddwn yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau hyfforddi technegol yn 2023. Bydd rhai ohonynt yn ddigwyddiadau wyneb-yn-wyneb, a bydd rhai ohonynt yn ddigwyddiadau rhithwir. Bydd rhai ohonynt yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim, a bydd modd adfer costau ar gyfer rhai ohonynt, a hynny er mwyn helpu ymchwilwyr cymaint â phosibl. Byddwn yn cyhoeddi manylion digwyddiadau i ddod ar ein gwefan a Twitter, a bydd llawer ohonynt ar gael i ymchwilwyr mewnol ac allanol fel ei gilydd...
Gan alw holl Cytometryddion Llif Prifysgol Caerdydd!
Rydyn ni’n cefnogi Grŵp Goruchwylio Seilwaith Ymchwil yr Ysgol Meddygaeth (RIOG) drwy greu Rhwydwaith o Arbenigwyr Cytometreg Llif Prifysgol Caerdydd. Nodau'r rhwydwaith hwn yw i Arbenigwyr Llif rannu dealltwriaeth dechnolegol a’r arferion gorau, sicrhau gwell gwytnwch offerynnau pan fo’n bosibl, cydlynu hyfforddiant cytometreg llif a galluogi cefnogaeth hyd yn oed yn well i ymchwilwyr sy'n defnyddio cytometreg llif.
Bydd Rhwydwaith Prifysgol Caerdydd yn rhan allweddol o Rwydwaith Cytometreg Llif y GW4 a fydd yn cynnal eu Cyfarfod Agoriadol ym Mhrifysgol Exeter ar 25 Ebrill (manylion eto i'w rhyddhau).
Cysylltwch â ni os hoffech chi ymuno neu ddysgu rhagor am y cynllun cyffrous newydd hwn.
Rhwydwaith Arbenigwyr Technoleg y DU (UK TSN)
Rhwydwaith newydd yw’r UK TSN a grëwyd i ddod ag arbenigwyr technoleg o bob rhan o'r DU ynghyd, a hynny i ddysgu ffyrdd newydd o weithio a rhannu gwybodaeth ac arbenigedd i gefnogi cydweithwyr mewn rolau tebyg. Cynhaliodd y rhwydwaith hwn ei Gyfarfod Agoriadol y gwanwyn diwethaf yng Nghaeredin.
Cynhelir cynhadledd nesaf UK TSN yng Nghaerfaddon (16-17 Ebrill 2024) ac mae'n addo bod yn gyfle rhwydweithio rhagorol i Arbenigwyr Technoleg a chydweithwyr eraill sydd â diddordeb.
Cliciwch yma i wybod rhagor am y rhwydwaith pwerus newydd hwn, gan gynnwys sut i ymuno a sut i gofrestru (am ddim!) ar gyfer y gynhadledd hon.