Teganau Nadolig yn chwarae rhan mewn darganfyddiad gwyddonol
21 Rhagfyr 2023
Nid dim ond eistedd yn amyneddgar o dan y goeden Nadolig hyd nes y cânt eu hagor yw teganau, maent hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol mewn ymchwil wyddonol a wneir gan Brifysgol Caerdydd.
Ar draws y Brifysgol, bydd yr anrhegion y gwna’r hen a’r ifanc eu derbyn eleni o gymorth i hyrwyddo ein dealltwriaeth o ddatblygiad dynol, o ddemocrateiddio ymchwil biofeddygol, neu i daflu goleuni ar rai o’r cwestiynau yn y bydysawd sydd dal heb eu hateb.
Barbie a'r ymennydd
Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod chwarae gyda doliau yn gweithredu rhannau o'r ymennydd sy'n caniatáu i blant ddatblygu empathi a sgiliau prosesu gwybodaeth gymdeithasol, hyd yn oed pan maen nhw’n chwarae ar eu pennau eu hunain.
Mewn cydweithrediad â Mattel, yr astudiaeth hon yw'r cyntaf i ddefnyddio data niwroddelweddu er mwyn deall actifadu'r ymennydd sy’n digwydd wrth chwarae gyda doliau, gan ddarparu cipolwg gwerthfawr ar yr agweddau datblygiadol sydd wrth wraidd y math hwn o chwarae.
Daeth i'r amlwg bod y pSTS, rhan o'r ymennydd sydd ynghlwm wrth brosesu gwybodaeth cymdeithasol megis empathi, yn weithredol hyd yn oed pan roedd plant yn chwarae gyda doliau ar eu pennau eu hunain, waeth beth oedd eu rhyw.
"Rydyn ni'n defnyddio rhan hon yr ymennydd wrth feddwl am bobl eraill, yn enwedig wrth feddwl am feddyliau neu deimladau person arall. "Mae doliau yn eu hannog i greu eu byd bach eu hunain, yn hytrach na gemau datrys problemau neu adeiladu er enghraifft. Maent yn annog plant i feddwl am bobl eraill a sut y gallent ryngweithio â'i gilydd."
Gwneud gemau fideo yn fwy cynhwysol
Erbyn hyn, mae gemau fideo yn cael ei chwarae gan nifer fawr o bobl. Mae tua hanner yn fenywol, ond mae gwahaniaethau mawr o gwmpas cynrychioliaeth rhywiau gwahanol tu fewn i gemau.
Fe gynhaliodd Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Glasgow yr astudiaeth fwyaf erioed o ddeialog mewn gemau fideo, gan ddadansoddi mwy na 13,000 o gymeriadau mewn 50 o gemau fideo chwarae rôl. Gwnaeth yr astudiaeth ddatgelu y ceir dwywaith cymaint o ddeialog gwrywaidd â deialog benywaidd ar gyfartaledd. O’r 94% o'r gemau a astudiwyd, roedd deialog gwrywaidd yn drech na’r deialog benywaidd. Roedd hyn yn cynnwys gemau gyda sawl prif gymeriad benywaidd fel Final Fantasy X-2 neu King's Quest VII.
Canfuwyd yr un anghydbwysedd mewn cymeriadau eraill a pharhaodd hyd yn oed wrth ystyried dewisiadau chwaraewyr ynghylch rhyw y prif gymeriad a deialog dewisol.
Er bod y tîm hefyd wedi canfod bod y gyfran o ddeialog benywaidd yn cynyddu'n araf deg, fe wnaethant gyfrifo pe bai'r duedd hon yn parhau, byddai'n dal i gymryd mwy na degawd i sicrhau cydraddoldeb. Ymhellach i hyn, ychydig iawn o gymeriadau oedd mewn categorïau rhyw anneuaidd: dim ond 30 allan o 13,000, neu tua hanner cymaint ag mewn bywyd go iawn.
LEGO yn y labordy
Mae bioargraffydd 3D wedi cael ei adeiladu’n gyfan gwbl o LEGO gan dîm o Brifysgol Caerdydd ar gyfer creu modelau meinwe fforddiadwy, y gellir eu hadeiladu i raddfa, ac y gellir eu hatgynhyrchu.
Syniad gan Dr Christopher Thomas, Dr Oliver Castell a Dr Sion Coulman o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd yw hwn, a nhw wnaeth ddylunio ac adeiladu’r argraffydd hefyd. Mae'r argraffydd yn gallu argraffu deunydd biolegol – megis celloedd croen.
Dywedodd Dr Coulman: "Ein bwriad oedd creu bioagraffydd y gallai unrhyw un ei adeiladu, gydag ychydig iawn o arian, a dyna'n union rydyn ni wedi'i gyflawni. Mae ein papur yn manylu yn fwriadol ar bob elfen o'r gwaith adeiladu, gan gynnwys y rhannau LEGO penodol a ddefnyddir, yn ogystal â'r hyn y mae’n gallu ei wneud, fel y gellir ei efelychu'n hawdd mewn unrhyw labordy, unrhyw le yn y byd."
Mae angen samplau o feinwe dynol ar gyfer ymchwil biofeddygol i helpu i wella ein dealltwriaeth wyddonol o filoedd o gyflyrau meddygol yn ogystal ag ar gyfer datblygu triniaethau effeithiol. Er bod bioargraffu 3D yn cynnig gobaith ar gyfer datblygu'r samplau hyn, gall fod yn afresymol o ddrud, ac yn aml nid yw dyfeisiau oddi ar y silff yn ateb y galw yn y labordy.
Ychwanegodd Dr Castell: “Rydym wedi dangos bod y bioargraffydd hwn, er ei fod wedi’i adeiladu gan ddefnyddio offeryn adeiladu rhad a syml, wedi’i greu i safon uchel o ran ei beirianneg, a’i fod yn cyflawni'r lefel ofynnol o ran cywirdeb i gynhyrchu deunydd biolegol o wneuthuriad a gwead hynod fân a manwl, a hynny heb effeithio ar ei berfformiad mewn unrhyw ffordd.”
Er bod yr ymchwil yn dal yn ei ddyddiau cynnar, y gobaith yw y gallai’r bioargraffydd LEGO 3D helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o glefydau ymhellach, ac y gallai gyfrannu at greu ac atgyweirio meinwe, ac y gallai wneud triniaeth feddygol penodol ar gyfer bob claf yn bosib, drwy argraffu celloedd sy’n deillio yn unigol o bob claf.
Mae tîm Caerdydd eisoes yn cynnal gwaith ymchwil pellach i greu modelau croen hyfyw drwy'r bioargraffydd y gellir eu defnyddio i brofi triniaethau ar gyfer clefyd y croen a chanser y croen, neu i drawsblannu croen i gymryd lle croen sydd wedi'i ddifrodi.
Meddai Dr Castell: “Drwy sicrhau bod ein hargraffydd ar gael yn rhwydd, rydym yn gobeithio y bydd ymchwilwyr yn mabwysiadu'r dechnoleg hon i rannu arbenigedd ac i ddatblygu'r model ymhellach gyda chydrannau LEGO ychwanegol er budd y gymuned ymchwil biofeddygol gyfan."
Nadolig nefolaidd
Ar gyfer seryddwyr uchelgeisiol, efallai y bydd telesgop ar y rhestr i Siôn Corn eleni.
Ac er bod llawer o'r ymchwilwyr yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn dal i gofio eu darn cyntaf o offer syllu ar y sêr, maent bellach yn canolbwyntio eu hymdrechion ar arsylwadau a wnaed gan gyfleusterau sy'n costio miliynau ac weithiau biliynau o bunnoedd.
Mae rhai yn gweithio ar arsylwadau gan Delesgop Gofod Webb - y telesgop mwyaf pwerus a mwyaf cymhleth a lansiwyd erioed i'r gofod.
Lansiwyd y rhaglen ryngwladol hon dan arweiniad NASA gyda'i phartneriaid, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ac Asiantaeth Ofod Canada ar ddydd Nadolig 2021.
Hon fydd prif arsyllfa y degawd nesaf ac mi fydd yn galluogi seryddwyr ledled y byd i astudio pob cam yn hanes ein Bydysawd, yn amrywio o'r tywynnu llachar cyntaf ar ôl y Glec Fawr, i ffurfio systemau serol a phlanedol sy'n gallu cynnal bywyd ar blanedau megis y Ddaear, i esblygiad ein Cysawd yr Haul ni.
Ac mae seryddwyr Prifysgol Caerdydd eisoes wedi dechrau gwneud hynny, gan ddefnyddio Webb i ddatgloi dirgelion sêr sy'n ffrwydro, dadansoddi planedau a allai gynnal bywyd a datgelu strwythurau na allai unrhyw delesgop blaenorol eu canfod.