Astudiaeth yn dod o hyd i dri phatrwm a nodweddion cyfunol rhwng ADHD a awtistiaeth ar draws oes bywyd
26 Medi 2023
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2785193/neurodiversity3.png?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn gyflyrau niwroddatblygiadol sy'n cyd-ddigwydd yn gyffredin ac yn rhannu nifer o nodweddion. Mae astudiaeth newydd dan arweiniad Dr Amy Shakeshaft wedi dod o hyd i sut mae'r nodweddion hyn yn cyd-ddatblygu ar draws oes bywyd.
Cymerodd yr astudiaeth yma ddata gan 11,316 o unigolion yn astudiaeth hydredol Avon o Rieni a Phlant (ALSPAC). Yna, ymchwiliodd y tîm ymchwil sut y datblygodd nodweddion awtistiaeth ac ADHD gyda'i gilydd rhwng 4 a 25 oed.
Gwelwyd bod ADHD a nodweddion awtistig fel arfer yn dilyn yr un patrwm ar draws oes bywyd, ac yn dod i'r amlwg neu'n dirywio gyda'i gilydd.
Nododd y tîm bod tri phrif batrymau, neu 'is-grwpiau' o nodweddion ADHD-awtistig cyfunol drwy ddatblygiad:
1. Unigolion â nodweddion ADHD-awtistiaeth isel ar draws oes ei bywyd
2. Unigolion â symptomau ADHD-awtistiaeth uchel yn ystod eu plentyndod a ddirywiodd fel oedolion ifanc
3. Unigolion â nodweddion ADHD-awtistiaeth cynyddol yn ystod blaen lencyndod hwyr neu fel oedolion ifanc.
Sylwodd y tîm bod nodweddion penodol sy'n gysylltiedig â phob is-grŵp, gan gynnwys:
- Cymhareb rhyw
- Y graddau o’r problemau ymddygiadol a’r gweithredu cymdeithasol yn ystod eu plentyndod ac fel oedolion
- Asesiad o’r risg genetig i ddatblygu anhwylderau eraill fel sgitsoffrenia ac iselder
“Mae canlyniadau'r astudiaeth hon yn amlygu’r patrwm amrywiol o ADHD a chyd-ddatblygaeth o’r nodweddion awtistig o blentyndod i oedolion ifanc a welwyd yn y boblogaeth gyffredinol, yn ogystal â’r nodweddion sy’n dod ynghyd o unigolion sydd â phatrymau gwahanol o ddatblygiad nodweddion. Mae'r canlyniadau yma yn ystyriaethau pwysig i glinigwyr gymryd camau dilynol ar blant sy’n dioddef o ADHD neu awtistiaeth trwy gydol ei bywyd.”
I gloi, mae'r ymchwil hon yn dangos bod tri phatrwm eang o nodweddion ADHD-awtistiaeth yn y boblogaeth gyffredinol, ac mae'r patrymau symptomau hyn yn gysylltiedig â nifer o ganlyniadau iechyd, addysgol a chyflogaeth trwy gydol oes.
I ddarllen y papur llawn, ewch i: Co-development of attention deficit hyperactivity disorder and autistic trait trajectories from childhood to early adulthood - PubMed (nih.gov)