Tiwtor dylunio pensaernïaeth yn helpu plant i oleuo Soho, Llundain ar gyfer y Nadolig
20 Rhagfyr 2023
Mae 14 o blant ysgol gynradd wedi gweld eu dyluniadau goleuadau Nadolig yn dod yn fyw mewn arddangosfa ar strydoedd Llundain yn rhan o brosiect Goleuadau Nadolig Plant Soho.
Mae’r arddangosfa o ddyluniadau gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Plwyf Soho wedi’i hysbrydoli gan eu hardal leol ac yn seiliedig ar y themâu o oleuni, hunaniaeth lle, a ffasiwn.
Dywed y trefnwyr fod yr arddangosfa hefyd yn wahoddiad i’r gymuned gyfan ymgysylltu a myfyrio ar bwysigrwydd hunaniaeth lle a’i datblygiad.
Bu’r prosiect, a ysbrydolwyd gan ddisgyblion ysgol gynradd yn Newburgh, yr Alban, gael ei sefydlu yn 2021, ac fe’i gynhyrchir ar y cyd rhwng Antonio Capelao, tiwtor dylunio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd a chyd-sylfaenydd Architecture for Kids CIC.
Meddai Antonio: “Mae’n anodd gen i gredu mai hon yw’r drydedd flwyddyn yn olynol inni gynnal prosiect Goleuadau Nadolig Plant Soho.
“Bob blwyddyn mae dyluniadau’r disgyblion yn mynd yn fwyfwy arbrofol a heriol. Ac mae hyn yn arbennig o wir yn 2023, wrth iddyn nhw fyfyrio ar friff dylunio mwy cymhleth, a hynny drwy drin a thrafod y rôl y mae golau yn ei chwarae mewn diwylliannau a chymunedau, a’r ffyrdd o greu ymdeimlad o hunaniaeth lle yn yr ardaloedd yr ydyn ni’n byw ynddynt.”
Bu’r plant yn ymchwilio i’w cymuned leol, eu diwylliannau a’u traddodiadau, ac fe wnaethon nhw ymweld ag Amgueddfa Ffasiwn a Thecstilau Llundain er mwyn cael ysbrydoliaeth ar gyfer eu dyluniadau.
Gwnaeth cyfres o weithdai dylunio dan arweiniad cyd-gynhyrchwyr y prosiect, sef Antonio, Hannah Peaty (Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gynradd Plwyf Soho), a Joshua Brooks (Rheolwr Dysgu Dros Dro yn Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA)), ddod â’u syniadau’n fyw.
Bu i bob un o’r 130 o ddisgyblion ysgol droi eu hymchwiliadau yn ddyluniadau goleuo go iawn, a’r rheiny’n portreadu agweddau ar hunaniaeth leol a theimladau o hunaniaeth bersonol.
Cafodd dyluniadau’r plant eu beirniadu gan bwyllgor o breswylwyr lleol a pherchnogion busnesau, lle bu’r rhai ohonyn nhw’n cael eu dewis gan RIBA a Chymdeithas y Diwydiant Goleuo i dderbyn gwobr am eu gwaith dylunio rhagorol.
Fe wnaeth dyluniadau pob un o’r 14 o enillwyr gael eu gweddnewid a’u gosod mewn arddangosfeydd goleuadau LED mawr gyda chymorth gan Blachere Illumination UK.
Penderfynodd y plant hefyd ar y lleoliad ar gyfer arddangos eu goleuadau – drwy Soho drwyddi draw, ochr yn ochr â’r 35 o baneli goleuo a gynhyrchwyd dros y ddwy flynedd a fu – sy’n cael eu harddangos rhwng 14 Tachwedd 2023 a 7 Ionawr 2024.
Ychwanegodd Antonio: “Diolch arbennig i’r noddwyr, ac i’r Cynghorydd Patrick Lilley am ei ymdrech ac i’r gymuned gyfan, am gefnogi ein prosiect sydd, wrth ei galon, yn ddathliad o olau yn ystod misoedd tywyllaf y flwyddyn!”
Rhagor o wybodaeth am Goleuadau Nadolig Plant Soho.