Tystiolaeth o ddefodau gwledda hynafol yr Oesoedd Canol yn cael ei datgelu ar dir eiddo hanesyddol
4 Ionawr 2024
Bu i fynwent ganoloesol cynnar gael ei darganfod ar dir Castell Ffwl-y-Mwn, sydd wedi’i leoli ger y Barri, De Cymru.
Fe wnaeth archeolegwyr o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd gynnal gwaith cloddio dros yr haf, lle y gwnaeth profion dyddio radiocarbon pellach ar eu darganfyddiad ddadlennu pa mor arwyddocaol ydyw. Mae'r cloddiad yn cynnig tystiolaeth ddiddorol newydd inni am fywyd yng Nghymru ganoloesol gynnar (OC 400-1100) ac mae'n gweddnewid ein dealltwriaeth o hanes Ffwl-y-Mwn a Bro Morgannwg.
Yn ôl yr ymchwilwyr, nid yn unig ar gyfer claddu’r meirw y defnyddiwyd y safle hwn. Fe wnaethant hefyd ddarganfod nifer o ddarnau bychain o esgyrn anifeiliaid, rhai yn arddangos tystiolaeth o gigyddiaeth a choginio, malurion gweithio metel, a darnau prin o lestri gwydr ar gyfer yfed a fewnforiwyd i’r ardal. Maent o’r farn y gallai rhywfaint o'r deunydd hwn fod yn ymwneud â defodau gwledda a gynhaliwyd wrth ymyl y bedd.
Credir y gallai fod mwy na 80 o feddau yno, ac mae’r rhai ohonynt yn arddangos nodweddion anarferol megis cyrff ar eu cyrcydau.
Dyma’r hyn a ddywedodd Dr Andy Seaman, Darlithydd mewn Archaeoleg Ganoloesol Cynnar: “Mae hwn yn ddarganfyddiad cyffrous dros ben. Mae safleoedd o'r dyddiad hwn yn hynod brin yng Nghymru ac yn aml nid ydynt yn cynnwys esgyrn nac arteffactau. Bydd mynwent Ffwl-y-Mwn yn caniatáu inni ddarganfod cymaint am y bobl oedd yn byw yma tua 1,400 o flynyddoedd yn ôl.
“Mewn safleoedd tebyg eraill, cafwyd hyd i gyrff ar eu cyrcydau fel hyn, ond o ystyried nifer y beddau rydym wedi bwrw golwg arnynt hyd yn hyn, ymddengys mai cyfran uchel sydd yno. Gallai hyn fod yn dystiolaeth o gyflawni rhyw fath o ddefod gladdu.”
Ychwanegodd: “Nid oes unrhyw beth i awgrymu yr oedd pobl yn byw yng nghyffiniau’r safle, felly mae'r dystiolaeth sydd gennym o goginio a gwydrau yn sicr yn awgrymu rhywfaint o wledda ddefodol, efallai i ddathlu neu alaru'r meirw.”
Gwnaeth arolygon geoffisegol a gynhaliwyd yn yr ardal yn 2021 ddatgelu nifer o safleoedd archaeolegol newydd, ac mae'r tîm wedi bod wrthi’n ymchwilio iddynt. Yn y lle cyntaf, roedden nhw’n meddwl eu bod wedi dod ar draws fferm hynafol, ond fe wnaeth cloddio manylach ddatgelu mynwent sy'n cynnwys claddedigaethau sy'n dyddio yn ôl i'r chweched a'r seithfed ganrif OC.
Un ymhlith nifer o brosiectau Prifysgol Caerdydd yw gwaith y tîm, sydd wedi ymddangos ar y rhaglen BBC, Digging for Britain.
Meddai Nigel Ford, a brynodd Castell Ffwl-y-Mwn yn 2019: “Rwyf wrth fy modd â’r darganfyddiad anhygoel hwn - mae’n ddiddorol dros ben. Fedra i ddim aros i gael gwybod mwy am y bobl a arferai fyw yn Ffwl-y-Mwn a chredaf y gallwn ni i gyd ddysgu gwersi gwerthfawr o'r gorffennol.”
Bydd y cloddio yn mynd rhagddo am sawl tymor ac mae'n cael ei gyflawni gyda chymorth myfyrwyr a gwirfoddolwyr sy'n derbyn hyfforddiant archaeolegol wrth ymgymryd â’r prosiect.
Dywedodd Jessica Morgan, myfyriwr Archaeoleg Prifysgol Caerdydd: “Rydw i wedi gweithio yn Ffwl-y-Mwn dros yr haf am ddwy flynedd yn olynol, ac mae wedi bod yn brofiad gwych. Mae’r amser wnes i ei dreulio yma wedi rhoi'r sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen arnaf ar gyfer gyrfa mewn archaeoleg, wedi rhoi hwb i’m gwybodaeth am archaeoleg ganoloesol gynnar, ac wedi dod â fy nhreftadaeth Gymreig yn agosach ata i. Mae'n safle mor bwysig a hynod o ddiddorol, ac rwy’n methu aros i gael parhau ag adrodd ei stori.”
Adeiladwyd Castell Ffwl-y-Mwn yn Ganolfan gweinyddu ac amddiffynnol oddeutu 1180 OC. Roedd yn eiddo i deulu Sant Ioan yn wreiddiol, a oedd yn tarddu o farchogion Normanaidd. Mae wedi cael hanes lliwgar ac amrywiol ers hynny, ac fe’i agorwyd yn atyniad i'r cyhoedd ar ôl diwedd y pandemig.