Staff yr Ysgol Busnes yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth
18 Rhagfyr 2023
Bu i Dr Hakan Karaosman ac Angharad Kearse gael eu cydnabod am gyfraniad rhagorol am eu gwaith yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd 2023.
Cynhaliwyd y noson wobrwyo ar 16 Tachwedd 2023 yn Neuadd Fawr Undeb y Myfyrwyr, o dan arweiniad yr Athro Damian Walford Davies, y Dirprwy Is-ganghellor a Claire Sanders, Prif Swyddog Gweithredu.
Mae'r gwobrau blynyddol hyn yn gyfle i'r holl staff ddathlu llwyddiannau rhagorol. Enwebwyd 144 o unigolion a grwpiau ar draws 16 categori.
Llongyfarchiadau i'r enwebeion, y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, a'r enillwyr. Dewch i gwrdd â staff Ysgol Busnes Caerdydd a gafodd eu cydnabod:
Dr Hakan Karaosman - Enillydd - Rhagoriaeth mewn Cynaliadwyedd Amgylcheddol
Ymchwilydd arobryn sydd â phrofiad rhyngwladol yw Hakan. Mae ei ymchwil yn ffocysu ar gynaliadwyedd cadwyn gyflenwi ffasiwn. Cafodd ei enwebu am fod yn llais blaenllaw ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol.
Mae ei ymchwil wedi cael ei gydnabod gan y Cenhedloedd Unedig a’r Comisiwn Ewropeaidd fel un o’r prosiectau arloesol sy’n cael effaith. Mae ef wedi ymddangos yn y wasg gan gynnwys Forbes, The Guardian, Vogue Business, The Financial Times, a llawer mwy. Fe wnaeth Hakan draddodi areithiau cyweirnod ar wahanol lwyfannau dylanwadol, gan gynnwys TED, Wythnos Ffasiwn Milano, a'r Uwchgynhadledd Ffasiwn Fyd-eang.
Dyma’r hyn a ddywedodd Hakan am ei fuddugoliaeth: “Diolch, Prifysgol Caerdydd am ddyfarnu’r Wobr imi am Ragoriaeth mewn Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn y Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd eleni. Llongyfarchiadau i bawb a enwebwyd! Mae ein cyfraniadau ni i gyd yn cydategu’i gilydd ac rydym mewn deialog gyson er mwyn inni allu newid pethau trwy ddefnydd o wyddoniaeth ac ymchwil yn offerynnau wrth gyflawni hyn.”
Gwyliwch/gwrandewch ar bodlediad The Power of Public Value lle ym mhennod 2, mae Hakan yn trafod ei waith a'r cysyniad o’r ymgyrchydd academaidd.
Pennod 2: Yr academydd actif: ail-lunio'r diwydiant ffasiwn – Dr Hakan Karaosman
Angharad Kearse - Cyrhaeddodd y Rownd Derfynol - Seren Newydd, Aelodau o staff y Gwasanaethau Proffesiynol
Enwebwyd Angharad am ei chyfraniad rhagorol i’r tîm Addysg Weithredol yn Ysgol Busnes Caerdydd. Yn Swyddog Ymgysylltu Allanol, gwaith Angharad yn y bôn yw datblygu a gwella'r berthynas rhwng yr Ysgol Busnes a'r gymuned Allanol.
Ymhlith y gweithgareddau y mae hi wedi cymryd rhan ynddynt ydy’r prosiect Prifysgol Plant Caerdydd. Bwriad y prosiect yw rhoi cyfle i blant o ysgolion cynradd lleol wybod mwy am addysg uwch ac i’w helpu nhw â'u dyheadau i’r dyfodol. Gwnaeth y prosiect hwn greu adborth cadarnhaol sylweddol i'r Brifysgol a'r Ysgol Fusnes.
Dyma a ddywedodd Damian Walford Davies, y Dirprwy Is-Ganghellor: "Ar draws 16 categori, roedd y cyfoeth o gyflawniadau oedd yn cael eu dangos yn destun llawenydd. Gall pob enwebai a'r holl enillwyr fod yn falch o'r ffaith iddynt gael eu henwebu gan eu cyfoedion, a oedd yn huawdl ac yn arnodi llwyddiannau, o rai sy’n cynnal yn dawel a rhai dramatig o drawsnewidiol."
Dyma a ddywedodd Claire Sanders, y Prif Swyddog Gweithredu: “Rwy'n edrych ymlaen at gyd-gynnal y seremoni wobrwyo hon bob blwyddyn. Braint yw gallu dathlu cymaint o gydweithwyr rhagorol a'r gwaith maen nhw'n ei wneud ar draws y Brifysgol. Llongyfarchiadau mawr i'r holl enwebeion a'r enillwyr am gynrychioli cymuned ein staff mor dda.”