Hacathon Gwerth Cyhoeddus yn tanio syniadau ac yn sbarduno arloesedd
15 Rhagfyr 2023
Yn ddiweddar cymerodd myfyrwyr ôl-raddedig o Ysgol Busnes Caerdydd ran mewn Hacathon Gwerth Cyhoeddus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn trwy atebion arloesol ar gyfer tri sefydliad a yrrir gan bwrpas.
Cynhaliwyd yr Hacathon Gwerth Cyhoeddus blynyddol yn Ysgol Busnes Caerdydd ar 15 Tachwedd 2023.
Cymerodd 160 o fyfyrwyr ran ar draws y rhaglenni Marchnata (MSc), Marchnata Strategol (MSc), a Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth (MSc).
Dechreuodd y digwyddiad undydd gyda chroeso gan yr Athro Ken Peattie, Pennaeth yr adran Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd a Dr Anthony Samuel, Darllenydd mewn Marchnata.
Nesaf, cyflwynodd Helen Taylor, Entrepreneur Preswyl Gwerth Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd sesiwn i fyfyrwyr ar yr hyn sy'n gwneud cyflwyniad da. Mae Helen yn un o sylfaenwyr One Blue Marble, sefydliad sy’n helpu busnesau ac elusennau i gyflymu eu hachos tuag at ddyfodol cynaliadwy a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Hwylusodd y diwrnod, cyflwynodd y tri sefydliad y cafodd myfyrwyr y dasg o ddatrys materion y byd go iawn ar eu cyfer, a gosododd yr heriau. Fe wnaeth Imogen Ford, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol Ecotricity, gefnogi Helen i gyflwyno'r sesiwn.
Mewn timau, cymerodd myfyrwyr ran mewn gweithgaredd datrys problemau creadigol amser-sensitif, gan ddatblygu syniadau arloesol, a gyflwynwyd wedyn i banel o feirniaid mewn cyflwyniad 2 funud. Cyflwynwyd tystysgrifau a gwobrau i'r timau buddugol a'r rhai a ddaeth yn ail.
Yr heriau a'r timau buddugol
Datrysodd myfyrwyr Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth (MSc) her Ecotricity o gynhyrchu Theori Newid gan annog pobl i ymddwyn yn fwy cynaliadwy.
Datblygodd myfyrwyr Marchnata (MSc) syniadau ar sut y gall Clwb Pêl-droed Forest Green Rovers gynnwys eu hethos ‘clwb pêl-droed gwyrddaf yn y Byd’ unigryw o gynaliadwyedd yng nghyfathrebiadau marchnata cyfryngau cymdeithasol y clwb.
Cyflwynodd myfyrwyr Marchnata Strategol (MSc) syniadau ar sut y gall Sefydliad Capten Paul Watson y DU ymgysylltu â mwy o wirfoddolwyr a chefnogwyr rheolaidd.
Dywedodd Helen Taylor, Sylfaenydd One Blue Marble:
“Roedd yn bleser pur (ac yn hwyl) i gynnal y diwrnod a gweld ymateb cadarnhaol y myfyrwyr gyda’u llygaid ar agor, yn awyddus i ymgymryd â’u heriau. Yn yr un modd, i fwynhau ffrwyth eu llafur – aethant i’r afael â’r heriau gyda’r fath drylwyredd, ymchwil gwych a dealltwriaeth dda o’u cynulleidfa. Mae myfyrwyr yn gadael i'w cymeriadau a'u dysgu arbenigol ddisgleirio wrth gyflwyno eu cyflwyniadau. Roedd pob un yn drawiadol iawn.
Diolch am y cyfle i weithio gyda chi i gyd. Rwy'n gobeithio ei fod wedi sbarduno rhywfaint o feddwl go ddifrifol tuag at ddefnyddio ymagwedd bwrpasol at fusnes a marchnata. Pob lwc i bawb i’r dyfodol.”
Roedd tîm trefnu’r Hacathon Gwerth Cyhoeddus 2023 yn cynnwys: Dr Carmela Bosangit, Dr Anthony Samuel, yr Athro Nicole Koenig-Lewis a Dr Laura Reynolds.