Dyfarnu Medal Griffiths i ymchwilwyr am eu hastudiaeth ar drosglwyddo COVID-19
14 Rhagfyr 2023
Yn ddiweddar dyfarnwyd Medal Griffiths, a gyflwynir gan y Gymdeithas Ymchwil Weithredol, i dîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd am eu cyfraniad i faes systemau iechyd.
Derbyniodd yr Athro Paul Harper, yr Uwch-ddarlithydd Thomas Woolley, a'r Myfyriwr Ymchwil Joshua Moore, o'r Ysgol Mathemateg, y wobr ar Ragfyr 7 yn y Gymdeithas Frenhinol, Llundain, am eu gwaith eithriadol yn y cyfnodolyn Health Systems yn eu papur 'Covid-19 Transmission Modelling of Students Returning Home from University.’
Rhoddodd yr ymchwil ddealltwriaeth werthfawr ynghylch sut y bydd myfyrwyr sy'n dychwelyd adref o'r brifysgol yn trosglwyddo COVID-19. Amcangyfrifodd yr ymchwilwyr nifer yr heintiau COVID-19 eilaidd a allai ddigwydd pan fydd myfyrwyr a allai fod yn heintus yn rhyngweithio â phreswylwyr eraill mewn cartrefi preifat, a datblygon nhw hefyd ap ar-lein a ddefnyddiodd llunwyr polisïau i amcangyfrif heintiau eilaidd yn seiliedig ar werthoedd paramedrau lleol.
Roedd gan yr astudiaeth ran sylweddol yn y gwaith o lunio polisi Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID-19, yn enwedig felly o safbwynt myfyrwyr prifysgol a oedd yn symud o’r naill le i’r llall. Bu i’r ymchwil lywio penderfyniadau a oedd yn ymwneud â'r cyfnod atal byr (cyfnod clo) ym mis Hydref/Tachwedd a gwyliau'r Nadolig yn 2020/21. Pwysleisiodd yr ymchwil y potensial o gael nifer uchel o heintiau eilaidd a chynigiodd ddealltwriaeth ynghylch strategaethau i'w lliniaru. Yn rhan o’r strategaethau hyn cynghorwyd myfyrwyr i osgoi cymysgu yn ystod y dyddiau cyn gadael, gweithredu amseroedd gadael graddol a chynnal profion ar fyfyrwyr ar sail dorfol cyn iddyn nhw ddychwelyd adref.
Dylanwadodd yr ymchwil hefyd ar benderfyniad hollbwysig gan y Gweinidog Addysg ar y pryd, Kirsty Williams, a anogodd brifysgolion Cymru i drosglwyddo i addysgu ar-lein o 8 Rhagfyr, 2020, gan ganiatáu amser i fyfyrwyr gael eu profi cyn mynd adref. Rhannwyd y canfyddiadau a'r penderfyniadau hyn â chydweithwyr yn Llywodraeth Lloegr, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, gan gyfrannu at ddatblygu polisïau ledled y DU ynghylch teithiau myfyrwyr yn ystod y pandemig.
Dyma a ddywedodd Paul Harper, Athro Ymchwil Weithredol, yn yr Ysgol Mathemateg, “Ar ran Thomas, Joshua, a minnau, rydyn ni’n falch iawn o fod wedi derbyn y wobr hon. Nod ein hymchwil oedd cyfrannu dealltwriaeth werthfawr ynghylch trosglwyddo COVID-19 ymhlith myfyrwyr prifysgol, ac rydyn ni’n ddiolchgar am y gydnabyddiaeth a'r cyfle i gael effaith gadarnhaol yn ystod cyfnod heriol y pandemig.
"Mae'n anrhydedd i dderbyn y wobr hon sydd wedi'i henwi ar ôl Yr Athro Jeff Griffiths. Mae Jeff yn Athro Ymchwil Nodedig er Anrhydedd yn ein hysgol ac enwyd y wobr hon er cydnabyddiaeth y blynyddoedd llawn cyflawniadau eithriadol a gwasanaeth i'r maes modelu gofal iechyd ac ymchwil weithrediadol."