Arbenigwyr yn ymgynnull yng nghynhadledd diogelwch, trosedd a chudd-wybodaeth gyntaf Caerdydd
14 Rhagfyr 2023
Tynnodd Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth Prifysgol Caerdydd arbenigwyr uchel eu parch ym meysydd plismona, diogelwch y cyhoedd a diogelwch ynghyd i rannu ymchwil a datblygu atebion arloesol i broblemau trosedd, diogelwch byd-eang a rheoli’r gymdeithas.
Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd ddydd Iau 7 Rhagfyr yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, yn ymchwilio i faterion yn ymwneud â’r drefn gyhoeddus, syniadau o ran plismona, caethwasiaeth fodern, trais domestig, a'r rhyngweithio rhwng cam-wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymddygiad anwaraidd. Yn ogystal, cyflwynwyd ymchwil arloesol ar ganfod cynnwys yn ymwneud ag agweddau gwrth-frechlyn ar X/Twitter, a dadansoddi’r rheiny a oedd yn rhannu damcaniaethau cynllwyn a newyddion ffug ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol. Roedd y gynhadledd yn gyfle am drafodaethau rhyngddisgyblaethol, gan feithrin cydweithio rhwng y byd academaidd, gorfodi'r gyfraith, a'r cyfryngau.
Uchafbwynt y gynhadledd oedd prif anerchiad a draddodwyd gan Paul Chichester MBE, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Rhannodd Mr Chichester wybodaeth werthfawr am feysydd seiberddiogelwch sy’n esblygu, gan drafod pwysigrwydd cael dull amlddisgyblaethol tuag at ddiogelwch cenedlaethol.
Dywedodd “Sefydlwyd yr NCSC gyda chenhadaeth i wneud y DU y lle mwyaf diogel i fyw a gweithio ar-lein, a saith mlynedd yn ddiweddarach, er gwaethaf bygythiadau sy'n newid yn barhaus, mae hynny'n wir o hyd."
Croesawodd y gynhadledd fwy na 80 o fynychwyr, gan gynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Daeth i ben gyda sesiwn panel arbenigol a oeddyn cynnwys yr Uwch-arolygydd Esyr Jones (Heddlu De Cymru), Gemma Dunstan (Uwch Ohebydd Newyddion BBC Cymru), a Dave Braines (Prif Swyddog Technoleg ar gyfer Technoleg sy’n dod i’r Amlwg yn IBM Research UK), lle cafodd y mynychwyr gyfle i holi y panel am yr heriau mwyaf dybryd sy'n wynebu eu sector..
Dywedodd yr Athro Martin Innes, Cyd-gyfarwyddwr Arweiniol y sefydliad: “Mewn byd sy'n teimlo'n fwyfwy ansefydlog ac ansicr, mae'n bwysig bod ymchwil o ansawdd uchel yn cael ei gyfeirio at ble mae ei angen fwyaf ac y gall gael yr effaith fwyaf. Dyma'r blaenoriaethau ar gyfer Cynhadledd Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth Caerdydd. “
Mae’r Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth yn rhan o fuddsoddiad gwerth £5.4 miliwn gan Brifysgol Caerdydd; arian sydd wedi’i fuddsoddi mewn pum sefydliad arloesedd ac ymchwil sy’n mynd i’r afael â’r materion mwyaf sy’n wynebu cymdeithas, yr economi, a’r amgylchedd.