Arbenigwyr y Gyfraith o Gaerdydd yn ymuno ag Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol o fri
1 Tachwedd 2023
Fis Hydref eleni, bu i ddau ysgolhaig ym maes y gyfraith o Gaerdydd gael eu hethol i Gymrodoriaeth Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Roedd yr Athro Jiří Přibáň a’r Athro Russell Sandberg o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ymhlith carfan o 47 o wyddonwyr cymdeithasol a ymunodd â’r Gymrodoriaeth yr hydref hwn.
Mae Cymrodoriaeth yr Academi yn cynnwys dros 1,500 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw o'r byd academaidd, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Eang yw eu harbenigedd yn y gwyddorau cymdeithasol, ac aiff eu hymarfer a’u hymchwil i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymunedau, y gymdeithas, lleoedd ac economïau. Mae holl Gymrodorion yr Academi yn cael eu dewis yn dilyn adolygiad annibynnol gan gymheiriaid sy’n cydnabod eu rhagoriaeth a’u heffaith, gan gynnwys eu cyfraniadau ehangach at y gwyddorau cymdeithasol er budd y cyhoedd.
Cyfrannwr uchel ei barch yw’r Athro Přibáň, sy’n cyfrannu at astudiaethau gwyddonol cymdeithasol o'r gyfraith yn y DU. Fe’i hadnabyddir am ei waith ymchwil clodfawr sy’n ffocysu ar gymdeithaseg cyfansoddiadaeth, am ei weithgareddau sefydliadol egnïaidd â ffocws da yn ei rôl yn hyrwyddwr a meithrinwr astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol, ac am ei ymroddiad eang i hyrwyddo democratiaeth, cyfansoddiadaeth, a’r rheolaeth y gyfraith yn bennaf yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop. Yn 2022, cafodd ei benodi’n aelod o Gymdeithas Ddysgedig y Weriniaeth Tsiec ac fe dderbyniodd wobrau’r Gymdeithas Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol am yr erthygl orau (yn 2005) a’r llyfr damcaniaethol gorau (yn 2016). Efe sy’n arwain y Gweithgor ar Gymdeithaseg Cyfansoddiadau ar gyfer Pwyllgor Ymchwil ar Gymdeithaseg y Gyfraith ac, yn ogystal â’i waith yng Nghaerdydd, bu’n Athro gwadd yn Sefydliad Rhyngwladol Cymdeithaseg y Gyfraith yn Onati, Gwlad y Basg, Sbaen.
Mae ymchwil yr Athro Sandberg yn archwilio'r rhyngweithio rhwng y gyfraith a'r dyniaethau, sydd ag arbenigedd neilltuol ym maes y gyfraith, crefydd a hanes cyfreithiol. Dros y blynyddoedd diwethaf, gwnaeth ei ymchwil ganolbwyntio ar y diwygiadau a wnaed i gyfraith priodas ac addysg yn ogystal â’r angen am ddulliau rhyngddisgyblaethol ym maes y gyfraith. Cafodd ei ymchwil ei ddyfynnu yn ystod dadleuon seneddol yn San Steffan a Senedd Cymru yn ogystal â chan Goruchaf Lys y DU a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Efe yw golygydd neu gyd-olygydd pum cyfres o lyfrau gan gynnwys y gyfres Analyzing Leading Works in Law gyda Routledge a ddyfeisiwyd ganddo. Mae'r Athro Sandberg hefyd yn Gymrodyr y Gymdeithas Hanes Frenhinol.
Mae rhestr lawn o’r Cymrodorion a etholwyd yr hydref hwn i’w gweld ar wefan Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol.