Yr Athro Debbie Foster yn cael ei chydnabod yn genedlaethol ar restr Disability Power 100
11 Rhagfyr 2023
Mae Debbie Foster, Athro Cysylltiadau Cyflogaeth ac Amrywiaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd, wedi cael ei henwi yn Disability Power 100 fel un o'r 100 o bobl anabl mwyaf dylanwadol yn y DU - gan weithio i dorri'r stigma ynghylch anabledd i greu byd mwy hygyrch a chynhwysol i bawb.
Mae Disability Power 100 yn dathlu uchelgais a chyflawniad, ac yn cyfrannu at newid y gymdeithas drwy gydnabod cryfderau a thalentau pobl anabl sy'n arloesi, yn newid pethau, ac yn dylanwadu ar eraill.
Mae'r Athro Foster wedi'i henwi yng nghategori Addysg Disability Power 100.
Mae'n cael ei chydnabod am ei gwaith fel Cyd-gadeirydd Tasglu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt. Sefydlwyd y Tasglu gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mewn ymateb i adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19' a gyd-gynhyrchwyd gan yr Athro Foster.
Canlyniad y Tasglu fydd y Cynllun Gweithredu 10 mlynedd i Gymru ar gyfer Hawliau Pobl Anabl, a fydd yn cael ei gyd-gynhyrchu gan bobl anabl a Llywodraeth Cymru.
Mae'r Athro Foster hefyd wedi cwblhau ymchwil ar y profiad o drafod addasiadau yn y gweithle ac i edrych ar pam y dylid ystyried addasiadau yn y gweithle yn broses cysylltiadau diwydiannol allweddol.
Yn fwy diweddar, bu'n arwain prosiect a oedd yn bartner gyda Rhwydwaith Cyfreithwyr Anabl Cymdeithas y Gyfraith Cymru a Lloegr. Gwnaeth y prosiect gyd-gynhyrchu canfyddiadau ymchwil am brofiadau gyrfaol pobl anabl sydd â swyddi proffesiynol ym maes y gyfraith. Mae'r canfyddiadau wedi dylanwadu ar strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant Cymdeithas y Gyfraith a rheoleiddwyr cyfreithiol, ond yn bwysicaf oll, maent wedi grymuso pobl anabl yn y proffesiwn cyfreithiol i ddefnyddio'r sylfaen dystiolaeth o'r ymchwil i ddadlau dros newid.
Ym mis Ionawr 2023 cafodd ei henwi'n un o 100 o Ysgogwyr Newid gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru am ei gwaith gyda Llywodraeth Cymru.
Dewiswyd y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Disability Power 100 gan banel beirniadu annibynnol dan gadeiryddiaeth Andrew Miller MBE o blith dros 1500 o enwebiadau cyhoeddus. Cewch fanylion llawn y rownd derfynol eleni yn Disability Power 100.