Cyn-fyfyriwr 'wedi cyffroi’n lân' yn sgîl cyhoeddi ei nofel
8 Rhagfyr 2023
Mae un o gyn-fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg wedi ysgrifennu nofel a gaiff ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.
'A Song of Ruin and Rage', a ysgrifennwyd gan Makenzie Marshall, yw'r nofel gyntaf mewn cyfres chwe rhan o'r enw 'A Quest for Sleeping Dragons'. Ffantasi epig a ysbrydolir gan fythau o Gymru yw’r gyfres, sef rhywle rhwng u cyfuniad 'rhamant a ffantasi' a 'garw a thywyll'.
Mae ‘A Song of Ruin and Rage’ yn dilyn pedwar prif gymeriad sydd â chysylltiadau â’r Otherworlds wrth i grŵp crefyddol radical, The Cult of Undoing, ddechrau mynd yn fwy grymus, gan fygwth eu bywydau yn ogystal â The Balance of the Three Worlds.
Wrth siarad â ni cyn y cyhoeddiad, dyma’r hyn a ddywedodd Makenzie: “Cariad at Gymru sydd wedi esgor ar y llyfr hwn a’r gyfres y mae’n rhan ohoni, yn ogystal â fy angerdd dros iaith, hanes, a llên gwerin y Cymry.
“Es i ati’n benodol i greu fy myd fy hun, fy nghymeriadau, fy system hud a’m creaduriaid fy hun ac ati, a hynny oll dan ysbrydoliaeth deunyddiau canoloesol a’r cyfnod modern cynnar o Gymru’n bennaf. Fodd bynnag, do’n i ddim eisiau ailadrodd straeon y Mabinogion nac ailddychmygu deunydd y ffynonellau yng ngoleuni’r oes fodern. Ro’n i eisiau dangos sut y gellir defnyddio’r ffynonellau hyn i ysbrydoli pobl, sef bod yn darddle gwaith newydd sy’n gyforiog o gyfeiriadau, themâu a chreaduriaid hŷn - ac weithiau gymeriadau hyd yn oed.”
Cyn-fyfyrwraig yn Ysgol y Gymraeg yw Makenzie. Astudiodd MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd rhwng 2021-2022 ac esboniodd fod cynnwys y cwrs wedi ei helpu i ddatblygu rhai o gymeriadau’r nofel.
Dyma’r hyn a ddywedodd: “Roedd y cwrs MA wedi fy ysbrydoli’n anuniongyrchol i greu un o fy mhrif gymeriadau, a’r un mwyaf poblogaidd, sef Tali ferch Talhern. Daeth yn fyw wrth i'r cwrs gwmpasu rôl a gwaith beirdd canoloesol o Gymru. Cyfeiriad yw Tali at Taliesin a Thalhaearn, beirdd o Gymru yn yr Oesoedd Canol, a gwaith Gwerful Mechain sy’n dylanwadu ar y ffaith ei bod yn fardd benywaidd.
“Cafodd un arall o fy nghymeriadau, ac un o fy ffefrynnau personol, ei greu ar ôl astudio hanes yr iaith Gymraeg. Cafodd y cymeriad Drysïen ei enwi o hen air yn Gymraeg am ‘lwyn drain/drysi/mieri.’”
Mae Makenzie bob amser wedi bod yn angerddol dros ysgrifennu, gan ysgrifennu ei llyfr cyntaf yn 10 oed. 'A Song of Ruin and Rage' yw chweched nofel orffenedig Makenzie.
Bydd ‘A Song of Ruin and Rage’ yn cael ei chyhoeddi’n annibynnol gan Makenzie trwy KDP ac Ingram Spark a bydd yn cael ei chyhoeddi ledled y byd ar 27 Rhagfyr. I ddathlu diwrnod ei chyhoeddi, cynhelir parti lansio’r llyfr yn Storyville Books ym Mhontypridd ar 27 Rhagfyr a bydd darnau o’r nofel yn cael eu darllen.
Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant, Makenzie!