Dathlu sylfaenydd y grefydd Sikhiaeth
7 Rhagfyr 2023
![participants at Sikhism event](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2783705/DSC02903.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Dathliad y DU yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae digwyddiad wedi’i gynnal yng Nghaerdydd i ddathlu genedigaeth Guru Nanak, sylfaenydd y grefydd Sikhiaeth.
Bu’r Prif Weinidog Mark Drakeford, Canghellor y Brifysgol y Farwnes Jenny Randerson ac Uchel Gomisiynydd India Vikram Doraiswami yn bresennol yn y digwyddiad arbennig, a drefnwyd gan Gyngor Sikhaidd Cymru, Uchel Gomisiwn India a’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn y Brifysgol.
Dywedodd cyd-drefnydd y dathliad James Hegarty, Athro Sansgrit a Chrefyddau India:
“Braint o’r mwyaf yw dathlu bywyd a doethineb Guru Nanak ym Mhrifysgol Caerdydd.”
Yn y dathliad hwn o fywyd a gwaddol Guru Nanak, bu dros 200 o westeion yn bresennol. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Adeilad Julian Hodge ar 26 Tachwedd.