Tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd yn ennill gwobrau addysgu Tsieinëeg mewn pencampwriaeth ranbarthol
7 Rhagfyr 2023
Yn ddiweddar, enillodd dau diwtor o Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Caerdydd, Mengjiao Yang a Modi Zhu, wobrau ym ‘Mhencampwriaeth Addysgu Tsieinëeg yr Alban a Chymru Gwledydd Saesneg eu hiaith yn Ewrop 2023’ ym Mhrifysgol Glasgow.
Cafodd y gystadleuaeth, a gynhaliwyd ar 29 Hydref, ei beirniadu gan bum arbenigwr ym maes addysg Tsieinëeg ryngwladol o Brifysgol Sheffield, Prifysgol Aberdeen a Phrifysgol Manceinion. Ar ôl cael eu dewis o blith 27 o athrawon i gymryd rhan yn rownd derfynol y categori Addysgu Sylfaenol ac Eilaidd, rhoddodd y ddau diwtor enghraifft o sesiwn addysgu i gynulleidfa o arbenigwyr ac ysgolheigion.
Roedd sesiwn Mengjiao Yang yn mynd i'r afael ag anghenion myfyrwyr Blwyddyn 7-9 nad oedd ganddyn nhw wybodaeth flaenorol o’r Tsieinëeg, gan eu dysgu sut i ddweud yr amser. Drwy gemau, deunyddiau addysgu ymarferol a chaneuon Tsieinëeg, cyflwynodd Ms. Yang sesiwn fywiog. Cyflwynodd hefyd y cysyniad o 'meddylfryd twf' y mae'n ei ddefnyddio i annog myfyrwyr i feddwl yn gadarnhaol ac yn optimistaidd wrth ddysgu Tsieinëeg.
Roedd y beirniaid a'r arbenigwyr wedi canmol yr elfennau amrywiol ond neilltuol yng nghynllun ei gwers, a chafodd Mengjiao y wobr fuddugol yng nghategori Addysgu Sylfaenol ac Eilaidd. Mi fydd hi'n mynd ymlaen i gynrychioli'r Alban a Chymru yn Rownd Derfynol Pencampwriaeth Addysgu Tsieinëeg y DU yn y gwanwyn.
Sesiwn addysgu Modi Zhu oedd "goddrych + cymryd ffordd benodol o drafnidiaeth + mynd i le penodol" i ddisgyblion Blwyddyn 5 nad oedd erioed wedi astudio Tsieinëeg o'r blaen. Roedd ei deunydd a'i gweithgareddau addysgu blaengar yn cynnwys fideo o'i theithiau ei hun a gêm ar sail whack-a-mole a gafodd eu canmol a'u chymeradwyo gan y beirniaid. Enillodd Ms. Modi Zhu y wobr am Gyfranogiad Rhagorol.
Trefnir Pencampwriaeth Addysgu Tsieinëeg yr Alban a Chymru Gwledydd Saesneg eu hiaith yn Ewrop 2023 ar y cyd gan Bwyllgor Prawf Hyfedredd Tsieinëeg y DU a Chymdeithas Athrawon Tsieinëeg y DU.