Cynfyfyriwr Cysylltiadau Rhyngwladol yn trafod Cenhedlaeth Windrush ar gyfer rhaglen ddogfen newydd ar S4C
6 Rhagfyr 2023
Mae cynfyfyriwr Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi taflu goleuni ar Genhedlaeth Windrush Cymru mewn rhaglen ddogfen newydd fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon.
Emily Pemberton, a astudiodd Gysylltiadau Rhyngwladol (IR) ar lefel israddedig ac ôl-raddedig yn yr ysgol, yw cyflwynydd Windrush: Rhwng Dau Fyd sydd ar gael i'w wylio ar S4C/iPlayer ar hyn o bryd.
Mae'r rhaglen ddogfen yn trin a thrafod dinasyddion y Gymanwlad a deithiodd i'r DU o Jamaica, Trinidad, St Lucia, Grenada, St Kitts a Barbados o ddiwedd y 1940au hyd at y 1970au. Maent yn aml yn cael eu cysylltu ag un o'r llongau cyntaf i gyrraedd Tilbury yn ystod y cyfnod hwn - HMT Empire Windrush. Trefnodd Llywodraeth y DU yr ymfudiad torfol hwn i helpu i ailgodi'r wlad yn dilyn y rhyfel. Fodd bynnag, sylweddolodd llawer o'r rhai a gymerodd y cynnig bod realiti'r DU yn wahanol iawn i'r hyn a addawyd.
Mae rhaglen ddogfen Emily yn edrych ar ei chysylltiadau teuluol ei hun â Windrush trwy lythyrau, cofiannau ac atgofion o'i thaid a’i nain ei hun, John Pemberton ac Evadne Lewis, a ymfudodd i'r DU ar ddiwedd y 1950au/dechrau'r 1960au. Yn ogystal, mae Emily yn siarad â chymunedau Pobl Dduon yng Nghymru i glywed am eu profiadau, eu bywydau a sut mae'r digwyddiad hanesyddol arwyddocaol hwn yn ei amlygu ei hun yn 2023, ac i’r cenedlaethau sydd wedi cael eu geni ers hynny. Cafodd Emily gyfle hefyd i siarad â David Lammy AS sydd wedi bod yn llais plaen yn San Steffan ynghylch y ffordd y mae’r Genhedlaeth Windrush wedi cael eu trin yn ystod y blynyddoedd diwethaf, trwy adeiladu ar waith cyfreithwyr ac actifyddion fel Hilary Brown, sydd hefyd yn ymddangos yn y rhaglen ddogfen.
Mae Emily yn credu bod ei chyfnod yn astudio yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi dylanwadu ar ei diddordeb mewn hanes a rhaglenni ffeithiol. “Fe wnaeth fy astudiaethau mewn cysylltiadau rhyngwladol cynnau tân a gwneud i mi feddwl hyd yn oed yn fwy am bethau yr oedd gen i ddiddordeb ynddynt eisoes. Mae gen i ddiddordeb mewn cyfuno'r cyfryngau â gwleidyddiaeth/materion byd-eang o safbwynt person ifanc sydd wir â diddordeb yn y pynciau hyn ac sydd eisiau arbrofi gyda fformatiau a ffyrdd gwahanol o greu rhaglen ddogfen.”
Mae Windrush: Rhwng Dau Fyd ar gael i'w wylio ar S4C/iPlayer ar hyn o bryd.