Llwyddiant RemakerSpace yn arwain at greu grŵp crefftau newydd
6 Rhagfyr 2023
Arweiniodd llwyddiant sesiynau rhagarweiniol RemakerSpace, a gafodd eu llunio i hyrwyddo a chefnogi’r gwaith o ymestyn cylch bywyd cynnyrch a'r economi gylchol, at greu grŵp crefftau cymdeithasol newydd i staff Prifysgol Caerdydd.
Cynhaliwyd sesiynau rhagarweiniol RemakerSpace yn rhan o bythefnos Iechyd, Amgylchedd a Lles Cadarnhaol (PHEW) 2023 y Brifysgol. Prif nod pythefnos PHEW yw rhoi’r cyfle i staff gael blas ar weithgareddau newydd neu i gael gwybod rhagor am ystod o bynciau ym maes iechyd, lles a'r amgylchedd.
Roedd y digwyddiadau rhyngweithiol yma’n gyfle da i’r staff gael gweld RemakerSpace ar waith ac i weld yr offer a'r cyfleusterau sydd ar gael. Ymhlith y sesiynau roedd:
- Diogelwch Trydanol yn y Cartref
- Hanfodion y Fainc Atgyweirio Electroneg
- Cyflwyniad i Argraffu 3D
- Gwau, Sgwrsio, Crefftau a Chloncian
Dyma’r hyn a ddywedodd Helen Harries o dîm PHEW: “Bu’r sesiynau’n rhan gadarnhaol dros ben o raglen PHEW a oedd yn para am bythefnos, a chawson nhw groeso mawr gan y staff a ymatebodd yn gadarnhaol i safon y sesiynau a’r mwynhad yn sgil y rhain, ond hefyd i cyfleuster RemakerSpace ei hun.”
Dyma a ddywedodd Zoe Mann, Swyddog Cefnogi Rhaglenni’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, a aeth i ddau o ddigwyddiadau RemakerSpace: “Ro’n i’n rhyfeddu at yr wybodaeth eang o’r prosiectau a’r economi gylchol oedd gan hwyluswyr y digwyddiad, a chafodd eu brwdfrydedd dros y pynciau hyn argraff fawr arna i. Calonogol iawn oedd gweld yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i geisio gwella prosesau gweithgynhyrchu ac i annog atgyweirio a gwell ymwybyddiaeth o gylchoedd bywyd cynnyrch i ddefnyddwyr.”
Gwau, Sgwrsio, Crefftau a Chloncian
Mae adborth cadarnhaol yn dilyn y sesiynau rhagarweiniol wedi arwain at greu grŵp cymdeithasol newydd i’r staff ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n dwli ar grefftau a elwir yn 'Gwau, Sgwrsio, Crefftau a Chloncian'.
Estynnir gwahoddiad i gydweithwyr ddod â'u prosiectau ar y gweill, rhannu eu hawgrymiadau da, cyfnewid patrymau, a chwrdd â chrefftwyr eraill. Bydd gan y rhai sy’n dod i’r sesiynau’r cyfle i ddefnyddio’r peiriannau gwnïo domestig a diwydiannol RemakerSpace. Cynhelir y sesiwn nesaf ar 9 Ionawr a gallwch gadw eich lle drwy Eventbrite.
Gwybodaeth am RemakerSpace
Cynllun nid-er-elw sy'n ymgysylltu â'r gymuned a byd addysg er mwyn hyrwyddo a chefnogi’r gwaith o ymestyn cylch bywyd cynnyrch a'r economi gylchol yw RemakerSpace a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac Ysgol Busnes Caerdydd.