Sbwng arbennig newydd a allai drawsnewid triniaeth canser yr ymennydd
6 Rhagfyr 2023
Mae dull cyflenwi cyffuriau newydd sy'n defnyddio deunydd tebyg i sbyngl unigryw yn gobeithio gwella'r driniaeth o fath ymosodol iawn o ganser yr ymennydd yn y dyfodol.
Mae tîm o ymchwilwyr, dan arweiniad Dr Benjamin Newland yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd, yn archwilio deunydd unigryw tebyg i sbwng fydd yn cynnwys cyffuriau sy’n targedu canser. Bydd yn cael ei osod yn uniongyrchol yn y gwagle yn yr ymennydd lle mae tiwmor glioblastoma multiforme (GBM) anodd ei drin wedi'i dynnu trwy lawdriniaeth.
Dywedodd Dr Benjamin Newland, Prifysgol Caerdydd: “Tiwmorau amlffurf Glioblastoma yw’r math mwyaf ymosodol a chyffredin o diwmor malaen sylfaenol ar yr ymennydd ymhlith oedolion, ac maent yn anodd eu trin. Mae celloedd GBM yn aml yn cael eu gadael ar ôl yn dilyn llawdriniaeth, sy'n golygu eu bod yn parhau i dyfu a lluosi, gan arwain at y clefyd yn dychwelyd.
“Yn y corff dynol, mae rhwystr rhwng y gwaed a’r ymennydd. Mae’r rhwystr wedi’i gynllunio i amddiffyn yr ymennydd rhag tocsinau a phathogenau. Fodd bynnag, mae'r rhwystr hefyd yn gwahardd therapïau canser traddodiadol a systemau cyflwyno cyffuriau rhag targedu celloedd canser yr ymennydd, gan eu gwneud yn aneffeithiol o ran cyrraedd canser yr ymennydd a’i wella. Mae hyn yn golygu bod y prognosis ar gyfer cleifion GBM, yn ogystal â chleifion eraill sydd â chyflyrau’r ymennydd, yn waeth na’r hyn yr hoffem ei weld.”
Mae'r tîm, sy'n cynnwys ymchwilwyr o bum prifysgol yn y DU, yn cydweithio ar ddylunio, cynhyrchu a phrofi deunydd arloesol tebyg i sbwng sy'n gallu dal cyfuniadau o gyffuriau canser a’u cyflwyno. Mae’r rhain wedi'u hailbwrpasu i gyrraedd y celloedd tiwmor sy'n aros y tu mewn i'r ymennydd yn uniongyrchol, gan osgoi'r rhwystr rhwng y gwaed a’r ymennydd yn gyfan gwbl.
Ar ben hynny, bydd y dechneg newydd hon yn lleihau'r sgil-effeithiau andwyol sy'n gysylltiedig â therapiwteg canser.
Mae £500,000 wedi’i ddyfarnu i’r prosiect hwn o ganlyniad i bartneriaeth ariannu rhwng y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) a’r elusen, Brain Tumour Research. Dyma bartneriaeth gyntaf yr elusen gyda MRC a'u buddsoddiad mawr cyntaf yng Nghymru.
Dywedodd Dr Karen Noble, Cyfarwyddwr Ymchwil, Polisïau ac Arloesedd elusen Brain Tumour Research.: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi gwaith arloesol Dr Newland a’i dîm. Mae datblygu ffordd o ddarparu triniaethau therapi mewnlawdriniaethol yn gyfle euraidd i ddatblygu gofal ar gyfer cleifion tiwmor yr ymennydd sydd wedi aros yn rhy hir am welliant o ran y triniaethau sydd ar gael. Rydym yn llawn cyffro am yr ymchwil hon.”
Mae’r cyllid yn rhan o’r cynllun £2 filiwn a gyhoeddwyd gan Michelle Donelan, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg. Mae prosiect Dr Newland yn un o bedwar prosiect y dyfarnwyd cyllid iddynt. Mae hyn yn dilyn digwyddiad 'trafod syniadau’ MRC a roddodd y cyfle i arbenigwyr academaidd gydweithio a dylunio prosiectau newydd ac arloesol i fynd i'r afael â chanserau lle mae angen sydd heb ei ddiwallu. Bydd Dr Newland yn gweithio gyda chydweithwyr o brifysgolion Nottingham, Birmingham, Sheffield a Choleg y Brenin Llundain.