Rhaglen meistr newydd sbon wedi’i lansio ar gyfer 2024
6 Rhagfyr 2023
Mae rhaglen meistr newydd sbon, a fydd yn cael ei harwain gan yr Ysgol Ieithoedd Modern, wedi’i chyhoeddi ar gyfer 2024.
Treftadaeth Fyd-eang fydd y rhaglen ôl-raddedig a addysgir gyntaf i gael ei haddysgu gan academyddion ar draws Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd y garfan gyntaf yn dechrau ym mis Medi 2024.
Nod y rhaglen ryngddisgyblaethol hon, a gynlluniwyd ar y cyd gan academyddion ar draws Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yw meithrin dealltwriaeth ymhlith y myfyrwyr o’r rhan y mae treftadaeth yn ei chwarae ym mywyd modern. Bydd yn canolbwyntio ar ddatblygiadau rhyngwladol ac effaith globaleiddio ar y sector.
Arweinir y rhaglen gan yr Ysgol Ieithoedd Modern. Yn ogystal â chael eu haddysgu gan staff yr Ysgol hon, bydd y myfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen hefyd yn cael eu haddysgu gan staff Ysgolion eraill ar draws disgyblaethau'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol yn y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys staff yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Elfen gyffrous arall o’r rhaglen hon yw’r ffaith y bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith 20-diwrnod opsiynol. Ymhlith ein partneriaid presennol mae Amgueddfa Cymru.
Meddai'r Athro David Clarke, Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern a Chyfarwyddwr y Rhaglen Treftadaeth Fyd-eang: "Rwy'n hynod o falch bod Prifysgol Caerdydd wedi lansio'r rhaglen meistr gyffrous a rhyngddisgyblaethol hon, a fydd yn galluogi’r myfyrwyr i astudio Treftadaeth o safbwynt byd-eang, wrth hefyd ymgysylltu â'r sector treftadaeth bywiog yma yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn dod â chydweithwyr o sawl Ysgol Academaidd yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol at ei gilydd a fydd yn rhannu eu hymchwil academaidd a'u harbenigedd ymarferol."
Mae modd cyflwyno cais nawr i ddilyn y rhaglen hon. Ewch i’n tudalen cwrs i gael rhagor o wybodaeth.