Gordal Iechyd Mewnfudo: “Angen cymhelliad” ar gyfer mewnfudo sgiliau-uchel i Gymru
5 Rhagfyr 2023
Mae mewnfudo i Gymru yn chwarae rhan hanfodol wrth wrthbwyso demograffeg poblogaeth sy’n heneiddio’n gyflym, yn ôl adroddiad newydd gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru.
Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, yn dadansoddi patrymau mudo sgiliau-uchel yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymell gweithwyr medrus a’u teuluoedd i aros yng Nghymru, drwy ystyried ad-dalu’r Gordal Iechyd Mewnfudo.
Codir y gordal ar fewnfudwyr i’r DG ac mae wedi’i gynyddu sawl gwaith uwchlaw chwyddiant ers cael ei gyflwyno yn 2015. Mae bellach yn £1,035 ar gyfer rhan fwyaf o ymgeiswyr. Trosglwyddir y refeniw i’r gwasanaeth iechyd ac roedd yn cyfateb i 0.4% o gyllideb GIG Cymru yn 2022-23.
Ar hyn o bryd mae 37 o alwedigaethau ar restr prinder sgiliau ôl-Brexit y DG. Mae’r adroddiad yn canfod bod cyfradd swyddi gwag Cymru mewn sectorau allweddol yn uwch nag unrhyw wlad arall y DG, gyda 25% o swyddi yn wag.
Mae’r adroddiad yn nodi bod 215,429 o unigolion a aned dramor yn galw Cymru’n gartref, gan gyfrannu at yr economi a llywio demograffeg y dyfodol mewn gwlad sy’n heneiddio fel arall. Mae’r rhan fwyaf o’r newydd-ddyfodiaid i Gymru rhwng 20 a 44 oed, yn dueddol o fod wedi’u haddysgu i lefel uchel, ac yn dueddol o fod â mwy o blant na’r boblogaeth a aned yn y DG.
Nid yw mewnfudo wedi’i ddatganoli, ac mae gallu Llywodraeth Cymru i arloesi yn y maes yn gyfyngedig. Ond mae cyfrifoldebau datganoledig megis datblygu polisïau economaidd yn cwmpasu mewnfudo, prinder sgiliau, ac heneiddio’r boblogaeth.
Ers y pandemig, mae gweithwyr gofal a’u dibynyddion wedi’u heithrio o’r Gordal Iechyd Mewnfudo. Mae’r adroddiad yn dadlau yr oedd y penderfyniad yma yn anorfod, o ystyried diwedd rhyddid i symud yr UE, y nifer fawr o feddygon teulu sy’n nesáu at ymddeoliad, a phrinder byd-eang o weithwyr gofal iechyd.
Mae’r adroddiad yn awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru ystyried mynd i’r afael â phrinder sgiliau a heneiddio demograffig drwy ail bwrpasu cyllid a dderbyniwyd gan y Gordal Iechyd Mewnfudo drwy ad-dalu taliadau gordal ymgeiswyr.
Dywedodd prif awdur yr adroddiad, Dr Larissa Peixoto Gomes:
“Gallai ad-dalu’r Gordal Iechyd Mewnfudo gostio tua 0.4% o gyllideb GIG Cymru. Yng nghyd-destun cyllideb gyffredinol Cymru byddai’r swm o arian i’w ad-dalu’n fach, er gwaetha’r toriadau cyllidebol cyffredinol. Ond byddai cymell mwy o fewnfudo sgiliau-uchel i Gymru yn helpu iechyd sylfaen drethi Cymru yn y dyfodol a chynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae’r adroddiad yn dangos bod mewnfudo sgiliau-uchel yn llenwi bylchau sgiliau yn economi Cymru, ond bod swyddi gweigion ar restr prinder sgiliau Llywodraeth y DG yn parhau i fod yn uchel iawn.
“Nid yw ad-dalu’r gordal wedi’i ystyried hyd yma, ond mae’n haeddu archwiliad pellach fel opsiwn polisi. Mae gan Gymru y potensial i fod yn gartref deniadol i lawer o weithwyr a theuluoedd, a gallai hyn ddangos ewyllys da gan Lywodraeth Cymru i gael gwared ar rwystr ariannol arall i drethdalwyr a aned dramor sydd am gyfrannu at Gymru”.
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad.