Prifysgol Caerdydd ac IQE yn cyhoeddi eu bod wedi ymestyn eu partneriaeth strategol
11 Rhagfyr 2023
Mae Prifysgol Caerdydd ac IQE wedi ymestyn eu partneriaeth strategol. Bydd hyn yn buddsoddi'n sylweddol i ddatblygu talent mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd ac yn helpu i ehangu gweithgynhyrchu IQE yn ne Cymru.
Mae'r cytundeb newydd yn ymrwymiad pum mlynedd ychwanegol gan y ddau bartner i ehangu capasiti ymchwil ym maes technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Bydd dwy gadair athro newydd ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cael eu creu, un yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth y Brifysgol a'r llall yn yr Ysgol Peirianneg.
Bydd y ddwy yn defnyddio’r cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd ar gael yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd newydd yng Nghanolfan Ymchwil Drosi’r Brifysgol ar Heol Maendy.
Bydd y cytundeb hefyd yn helpu i wella darpariaeth sgiliau astudio ôl-raddedig a doethurol, ac ariennir dau ymchwilydd ôl-ddoethurol ac o leiaf chwe myfyriwr PhD, a bydd rhai o’r rhain yn dod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Dyma a ddywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Pennaeth Coleg Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg y Brifysgol a Rhag Is-Ganghellor Myfyrwyr Rhyngwladol: “Mae’r bartneriaeth agos rhwng IQE plc a Phrifysgol Caerdydd eisoes wedi arwain at ganlyniadau, gan helpu de Cymru i fod yn arweinydd ym maes ymchwil a datblygu lled-ddargludyddion.
“Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n ehangu ar y llwyddiant hwnnw a bydd y bartneriaeth o fudd ychwanegol i’r diwydiant a’r economi ranbarthol.”
Y tu hwnt i'r ymrwymiadau ariannu, mae Prifysgol Caerdydd ac IQE hefyd wedi cytuno i sefydlu Pwyllgor Cydweithio Strategol a fydd yn tynnu diddordebau ymchwil a datblygu at ei gilydd ac yn creu gweledigaeth ar gyfer ymchwil ar y cyd yn y dyfodol.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn gwerthuso cyfleoedd ariannu allanol i gael gwerth ychwanegol ar gyfer gweithgareddau ar y cyd.
Dyma a ddywedodd Americo Lemos, Prif Swyddog Gweithredol IQE: “Mae pobl wrth wraidd arloesi yn y diwydiant lled-ddargludyddion a chydnabyddir bod prinder talent ledled y byd. Drwy gryfhau ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, byddwn ni’n creu llif o dalent er budd IQE a diwydiant lled-ddargludyddion ehangach yn ne Cymru i ehangu’r twf hwn. Gan gefnogi hyfforddiant yn y Brifysgol a chydweithio ar ymchwil a datblygu, gyda’n gilydd byddwn ni’n parhau i feithrin rhwydwaith o lled-ddargludyddion cyfansawdd gwydn a chystadleuol sy’n arwain y byd.”
Arweiniodd y fenter gydweithredol wreiddiol rhwng IQE plc a Phrifysgol Caerdydd at greu Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC) y Brifysgol, gan ganolbwyntio ar fasnacheiddio ymchwil a datblygu ym maes deunyddiau lled-ddargludyddion cyfansawdd a thechnolegau dyfeisiau.
Mae’r CSC yn defnyddio ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu deunyddiau a thechnolegau newydd ac arloesol. Bydd y rhain yn galluogi ystod eang o gymwysiadau ffotonig a micro-electronig newydd, gan ddarparu cadwyn allu gyflawn fydd yn cynnwys ymchwil a datblygu, arloesi o ran cynnyrch a phrosesau a gweithgynhyrchu gwerth uchel yn sgil cyfleusterau byd-eang IQE.
Dyma a ddywedodd yr Athro Wyn Meredith, Cyfarwyddwr Sefydlol y CSC: “Rydyn ni’n falch iawn o barhau i fod wrth wraidd cryfhau'r berthynas rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE Plc.
“Ers 2016, mae model busnes CSC wedi arwain at fwy na £80M o weithgarwch ymchwil ar y cyd yn maes technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd i’w defnyddio mewn ffyrdd newydd mewn systemau cwantwm, offer electroneg, cyfathrebu yn y dyfodol ac electroneg effeithlon ar gyfer Sero Net.
“Yn sgil y cytundeb hwn bydd CSC yn gallu cyflymu’r broses o fasnacheiddio ein heiddo deallusol, ymestyn yr ymchwil a datblygu a wnawn yn ogystal â llywio gweithgarwch hyfforddi ar y lefel ddoethurol er budd y diwydiant lled-ddargludyddion lleol.”