Myfyrwyr yn trawsnewid theori yn ymarfer yng ngwersyll haf Bremen
1 Rhagfyr 2023
Mae grŵp o fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd wedi cymryd rhan mewn prosiectau’r byd go iawn mewn cydweithrediad â chwmnïau Almaeneg a'r DU yn rhan o wersyll haf.
Cynhaliwyd gwersyll haf PRAXIS yn ddiweddar ym Mhrifysgol Bremen, un o bartneriaid strategol Prifysgol Caerdydd.
Gan roi profiad ymarferol i fyfyrwyr, daeth y rhaglen gydweithredol hybrid tair wythnos 63 o fyfyrwyr rhyngwladol o brifysgolion partner ynghyd. Gweithion nhw mewn timau amlddisgyblaethol ar brosiectau busnes go iawn.
Cymerodd 18 o gwmnïau ran yn y gwersyll haf. Roedd pynciau'r prosiect a roddwyd i fyfyrwyr yn amrywio o farchnata a chyfathrebu i AD, cyllid a chynaliadwyedd.
Dywedodd Natalie James, Swyddog Prosiectau Symudedd Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd:
"Roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o Wersyll Haf PRAXIS eto yn bartner strategol. Nid yn unig y gwnaeth ein myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd trwy weithio ar brosiectau go iawn gyda chwmnïau blaenllaw, ond cawsant gyfle hefyd i brofi byw a gweithio mewn gwlad wahanol, meithrin cyfeillgarwch newydd, a datblygu’n ddinasyddion byd-eang. Roedd eu cyflwyniadau prosiect terfynol yn dangos eu hymrwymiad, eu brwdfrydedd a'u proffesiynoldeb – da iawn i bawb a gymerodd ran!"
Cefnogwyd timau'r prosiect yn uniongyrchol gan Brifysgol Bremen, sgowt myfyrwyr, hyfforddwr academaidd, a'r cwmnïau yr oeddent yn cwblhau'r prosiect ar eu cyfer. Cynhaliodd hyfforddwyr academaidd weithdai hyfforddi, gan gefnogi myfyrwyr gyda phynciau megis ymchwil i'r farchnad a dadansoddi data.
I ddod â’r gwersyll haf i ben, cyflwynodd myfyrwyr ganlyniadau eu prosiect a'u hargymhellion i bartneriaid allweddol PRAXIS, prifysgolion partner, myfyrwyr a rhanddeiliaid.
Dywedodd Andrej Holmes, Economics (BScEcon), myfyriwr oedd yn cymryd rhan:
"Fe wnes i fwynhau gweithio'n uniongyrchol gyda chwmni ar dasg go iawn. Roeddwn hefyd wrth fy modd yn cysylltu â phobl o wahanol wledydd a gweld eu safbwyntiau. Dysgais sut i ddelio â phobl heriol a gwella fy sgiliau Excel a siarad cyhoeddus. Roedd yn gyfle i wneud pethau na fyddwn yn eu gwneud fel arfer a chwrdd â phobl newydd, gwneud cysylltiadau busnes a rhwydweithio at gyfer y dyfodol, a gweld sut beth yw byw mewn gwlad wahanol. Roedd hefyd yn ffordd wych o gael blas ar sut brofiad fyddai astudio dramor. Llwyddais i sicrhau cynnig swydd drwy hyn, a oedd yn gwbl annisgwyl!"
Dywedodd cyfranogwr cwmni Brita, David Hall:
"Daeth pob myfyriwr â safbwyntiau unigryw a gwahanol. Roedd ansawdd y gwaith o ganlyniad i waith caled ac ymdrech, da iawn! Hapus iawn gyda'r cyflwyniadau a'r argymhellion."
Llofnodwyd y bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bremen – 'Cynghrair Bremen-Caerdydd' - yn 2019 ac mae'n hwyluso datblygu gweithgareddau ymchwil ar y cyd a mathau newydd o gydweithio academaidd rhwng y sefydliadau.
Mae rhaglenni symudedd myfyrwyr tebyg mewn partneriaeth â Phrifysgol Bremen yn cael eu cynnal drwy dimau Dyfodol Myfyrwyr a Chyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd.