Gwobr cyflawniad oes i athro Ysgol Busnes Caerdydd
1 Rhagfyr 2023
Mae Rick Delbridge, Athro Dadansoddi Sefydliadol, wedi ennill Gwobr Cyflawniad Oes Richard Whipp, o'r Academi Rheolaeth Brydeinig (BAM) yn y Gynhadledd BAM2023 eleni.
BAM yw'r awdurdod arweiniol ar faes academaidd rheolaeth yn y DU, gan gefnogi a chynrychioli'r gymuned o ysgolheigion ac ymgysylltu â chyfoedion rhyngwladol.
Sefydlwyd y wobr er cof am yr Athro Richard Whipp i gydnabod ei gyfraniad sylweddol i ddatblygu'r Academi. Roedd yr Athro Whipp yn Gadeirydd BAM a hefyd Athro Rheoli Adnoddau Dynol Ysgol Busnes Caerdydd ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd.
Cafodd yr Athro Delbridge ei enwebu am y wobr am ei gyfraniad ysgolheigaidd rhagorol i faes trefniadaeth a theori rheoli, ei gyfraniad sylweddol i BAM a'r cymunedau Busnes, Rheolaeth a Gwyddorau Cymdeithasol ehangach, gan gynnwys sawl rôl gyda'r ESRC ac fel arweinydd academaidd ar gyfer datblygu parc gwyddorau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, sbarc|spark. Gwnaed yr Athro Delbridge yn Gymrawd BAM yn 2013 a derbyniodd Fedal BAM am Arweinyddiaeth yn 2020.
Cyflwynir y wobr ym mhob Cynhadledd Flynyddol BAM ac fe'i cynlluniwyd i wobrwyo cwrs gyrfa ym maes Busnes a Rheolaeth.