Mynd i'r afael â heriau cynhyrchiant yn ystod Wythnos Genedlaethol Cynhyrchiant
30 Tachwedd 2023
Mae Prifysgol Caerdydd yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Cynhyrchiant, menter sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth a chynnig atebion i fynd i'r afael â heriau cynhyrchiant y DU.
Mae'r wythnos yn cael ei threfnu gan y Sefydliad Cynhyrchiant, corff ymchwil a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sy'n cynnwys naw o sefydliadau partner, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd. Bydd y fenter yn para wythnos, rhwng 27 Tachwedd a 1 Rhagfyr.
Bydd yn dod â'r byd academaidd, arweinwyr byd busnes, llunwyr polisïau a melinau trafod ynghyd i rannu syniadau a chynnig atebion ynghylch sut i fynd i'r afael â chynhyrchiant sy'n arafu yn y DU.
Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o fod yn bartner academaidd, gan gefnogi amcanion y Sefydliad Cynhyrchiant.
Ymunwch â'n Brecwast Briffio: Cynhyrchiant yng Nghymru - chwilio am wyrth?
Bydd y Brecwast Briffio, a fydd yn cael ei gynnal ddydd Gwener 1 Rhagfyr yn ystod Wythnos Genedlaethol Cynhyrchiant, yn archwilio'r her enfawr o ran cynhyrchiant yng Nghymru ac yn asesu'r potensial ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol. Cadwch eich lle.
Cadeirydd y digwyddiad fydd yr Athro Andrew Henley, yr arweinydd yng Nghymru ar gyfer y Sefydliad Cynhyrchiant a'i Fforwm Cynhyrchiant Cymru.
Yr Agenda Cynhyrchiant
Bydd yr wythnos hefyd yn gweld y Sefydliad Cynhyrchiant yn lansio Agenda Cynhyrchiant gyntaf y DU, adroddiad â 10 o benodau a ysgrifennwyd gan academyddion o wahanol sefydliadau partner y rhwydwaith, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd. Bydd hyn yn tynnu sylw at naw maes allweddol y mae angen i lunwyr polisïau ganolbwyntio arnynt er mwyn mynd i'r afael â thwf cynhyrchiant yn y DU.
Ysgogwyr cynhyrchiant ym myd busnes
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig y cyfleoedd canlynol a all helpu busnesau i arloesi:
- Mae ein darpariaeth Addysg Weithredol yn Ysgol Busnes Caerdydd yn troi ymchwil academaidd sy’n flaengar ar lefel fyd-eang yn arferion busnes perthnasol ac effeithiol ar gyfer unigolion a sefydliadau.
- Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn eich cysylltu â'n sgiliau a'n harbenigedd academaidd i helpu i wella eich cystadleurwydd, eich cynhyrchiant a'ch perfformiad.
Ymchwil cynhyrchiant
Mae academyddion Ysgol Busnes Caerdydd wedi gwneud amrywiaeth eang o waith ymchwil yn ymwneud â chynhyrchiant. Mae rhai o’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
- Data rhanbarthol yn hanfodol er mwyn i Gymru adfer yn economaidd ac yn gymdeithasol yn dilyn y pandemig
- Dim ateb tymor byr i fwlch cynhyrchiant Cymru, yn ôl adroddiad
- Arweinwyr busnes ac academyddion yn dod ynghyd i fynd i’r afael â heriau economaidd mwyaf dybryd Cymru
- Her Cynhyrchiant Cymru: Archwilio'r Materion - Papur Syniadau