Perfformiad cyntaf yng Nghadeirlan Tyddewi o ddrama'n seiliedig ar ymchwil yn y gyfraith
29 Tachwedd 2023
Fis Hydref eleni, newidiodd Athro o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ei rôl am noson i weld drama yr oedd wedi'i hysgrifennu yn cael ei pherfformio i gynulleidfa lawn yng Nghadeirlan Tyddewi, Sir Benfro.
Ysgrifennwyd y ddrama, Thrice to Rome, gan yr Athro Norman Doe, Cyfarwyddwr Canolfan y Gyfraith a Chrefydd ac mae'n ddarlleniad dramatig o dri ymddangosiad Gerallt Gymro yn Rhufain gerbron llys y Pab Innocent III yn 1201-03.
Perfformiwyd y ddrama, sy'n seiliedig ar gofnodion Gerallt ei hun o'r achosion, ar 6 Hydref 2023, ac mae'n nodi 800 ers mlynedd ei farwolaeth yn 1223. Gerallt oedd un o ffigyrau hanesyddol mwyaf Cymru, ac mae'n adnabyddus am ei lyfrau ar gymeriad Cymru a'i phobl.
Ond mae drama'r Athro Doe yn gadael i ni ail-ddychmygu Gerallt fel canon-gyfreithiwr o statws Ewropeaidd. Cynhaliwyd yr achosion yn Rhufain, dros dri gwrandawiad gerbron llys y Pab gyda'r Pab ei hun, Innocent III, yn llywyddu. Apeliodd Gerallt ar y Pab i gadarnhau ei ethol yn Esgob Tyddewi a chydnabod annibyniaeth Tyddewi a'r Eglwys yng Nghymru oddi wrth yr Eglwys yn Lloegr. Gwrthwynebai Archesgob Caergaint a Brenin Lloegr y ddau gais.
Mae'r ddrama'n stori am ymgiprys rhwng Cymru a Lloegr, gwrthdaro rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth, ac ymryson epig rhwng Tyddewi a Chaergaint - a'r cyfan ar y llwyfan Ewropeaidd ehangach.
Mae llawer o faterion a drafodir yn y ddrama'n atseinio gyda gwleidyddiaeth ddiweddarach a modern yng Nghymru. Chwaraeodd staff a myfyrwyr Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth rannau yn y ddrama: Russell Dewhurst (a gynorthwyodd gyda chyfieithu elfennau o'r ddrama o'r Lladin), Morag Ellis KC, a Norman Doe.
Mae'r ddrama'n ffrwyth ymchwil a wnaed gan yr Athro Doe ar gyfer llyfr golygedig ar hanes yr Eglwys yng Nghymru (a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt yn 2020) ac erthygl ar adfer Gerallt yn canon-gyfreithiwr a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caergrawnt yn yr Ecclesiastical Law Journal yn 2023. Gwireddwyd gweledigaeth Gerallt o Eglwys yng Nghymru'n rhydd o Gaergaint pan ddatgysylltwyd yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn 1920. Mae'r ymchwil wedi cael effaith eisoes, nid yn unig ym mherfformiad cyntaf y ddrama, ond hefyd wrth i'r gymuned (cast a chynulleidfa) ymgysylltu â'r cysyniad o ryddid eglwysig yng Nghymru. Roedd y digwyddiad yn gydweithrediad rhwng Canolfan y Gyfraith a Chrefydd ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac roedd yn rhan o’i Wythnos Llyfrgell a drefnwyd gan Mari James, Swyddog Datblygu Llyfrgell yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Caiff Thrice to Rome ei pherfformio eto ar 5 Mawrth 2024 yn Eglwys y Deml yn Ysbytai'r Frawdlys y Deml Ganol a'r Deml Fewnol yn Llundain ar ddiwedd wythnos Cymru yn Llundain 2024.
FFOTOGRAFF: Rhes flaen, o'r chwith i'r dde: Cardinal Hugolinus: Arwel Davies (Clerc y Siapter, Cadeirlan Tyddewi); Pab Innocent III: Gareth Powell (Rhag-Ganghellor Prifysgol Caerdydd); Esgob William Lyndwood: Russell Dewhurst (Cymrawd, Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd a Myfyriwr PhD); Novella, Athro Cyfraith Canon yn Bologna Ganoloesol: Morag Ellis KC (Dean of Arches ac Archwilydd, Eglwys Loegr, a Myfyriwr LLM mewn Cyfraith Canon); Bettina, Athro Cyfraith Canon yn Padua Ganoloesol: Heather Payne (Uwch Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru); Rhes gefn, o'r chwith i'r dde: John of Tynemouth, Eiriolwr Caergaint: Christopher Limbert (Ficer Corawl a Rheolwr Swyddfa'r Gadeirlan); Reginald Foliot, Canon Tyddewi: Leigh Richardson (Is-Ddeon, Cadeirlan Tyddewi); Gerallt Gymro: Norman Doe (Athro'r Gyfraith, Prifysgol Caerdydd); Buongiovanni, Clerc Archesgob Caergaint: Chris Crooks (Ystlyswr y Deon, Cadeirlan Tyddewi).