Newydd ar gyfer 2024: Cymdeithaseg (MSc)
8 Ionawr 2024
Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn cyflwyno gradd meistr newydd mewn Cymdeithaseg (MSc). Y nod yw helpu myfyrwyr i wneud synnwyr o fyd a ddiffinnir yn gynyddol gan newid cymdeithasol ac aflonyddwch.
Cynlluniwyd y rhaglen newydd, a gyfarwyddir gan yr Athro William Housley, i ddatblygu dychymyg cymdeithasegol myfyrwyr wrth fynd i'r afael â heriau byd-eang dybryd sy'n ymwneud â ffenomena fel:
- symudedd digidol a chorfforol
- perthnasoedd bodau dynol â'r amgylchedd
- bywyd trefol cyfoes
- technolegau aflonyddgar digidol a Deallusrwydd Artiffisial
- biofeddygaeth a geneteg gymdeithasol
Buom ni'n holi'r Athro Housley am y cwrs newydd a'r hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl.
- Pam creu'r cwrs hwn?
Crëwyd y cwrs i ddarparu llwyfan ar gyfer hyfforddi cymdeithasegwyr y genhedlaeth nesaf, mewn ffyrdd sy'n defnyddio hyfforddiant ymchwil o'r radd flaenaf ac arbenigedd cymdeithasegol a gydnabyddir yn rhyngwladol gyda golwg glir ar ddarparu profiad ôl-raddedig o'r radd flaenaf.
- Soniwch ychydig am y pynciau y bydd y rhaglen yn eu cynnwys
Gan dynnu ar ymchwil gyfredol sydd ar flaen y gad ym maes ymholi cymdeithasegol, mae’r rhaglen yn cynnig y cyfle i astudio materion cymdeithasol byw mewn modd bywiog a difyr.
Addysgir y cwrs gan arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy’n adlewyrchu cymeriad cyfoes a byd-eang y cwrs. Bydd pob cydran o’r elfen a addysgir o’r cwrs yn tynnu ar ddamcaniaeth gymdeithasol glasurol a chyfoes, yn ogystal ag ar arloesedd cyfredol yn nulliau ymchwil y gwyddorau cymdeithasol.
Byddwch yn archwilio pynciau megis symudedd, bywyd trefol, cyfuchliniau cymdeithas ddigidol a deallusrwydd artiffisial sy'n dod i'r amlwg, iechyd y blaned a'r amgylchedd a goblygiadau cymdeithasol biofeddygaeth a geneteg.
Byddwch yn dysgu cymhwyso elfennau craidd cynnwys y cwrs ac ymgysylltu'n feirniadol â nhw, a hynny trwy fynd i’r afael â sbardunau aflonyddwch a newid cymdeithasol yn y 'byd go iawn'. Byddwch yn cymhwyso'r sgiliau hyn yn eich traethawd hir, darn o ymchwil annibynnol ar bwnc o'ch dewis.
- Pa sgiliau y gallaf eu hennill ar y rhaglen hon?
Byddwch yn dysgu ystod o sgiliau sy'n cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o newidiadau a heriau byd-eang o safbwynt cymdeithasegol, sgiliau deallusol a fydd yn galluogi synthesis ac integreiddio theori, dull a data wrth gynllunio ymchwil gymdeithasegol a dadansoddi materion a phynciau cyfoes.
Mae'r rhaglen hefyd yn sylfaen ar gyfer datblygu ystod o sgiliau proffesiynol, ymarferol a throsglwyddadwy sy'n cynnwys cyfleu tystiolaeth, dehongli data a datblygu strategaethau effeithiol ar gyfer ymchwil annibynnol, ochr yn ochr â sgiliau ychwanegol sy'n gysylltiedig â rheoli amser a gweithio gyda chymheiriaid mewn cyd-destunau cydweithredol a thîm.
- Pa fath o yrfa y gall astudio cymdeithaseg arwain ati?
Rhoddir gwerth mawr ar y sgiliau ymchwil, llythrennedd a rhifedd lefel uchel a ddatblygir yn ystod eich gradd mewn amrywiaeth o rolau rheoli ac arwain lle mae meddwl yn feirniadol a dealltwriaeth o sefydliadau a diwylliannau yn bwysig.
Mae’r pynciau sylweddol yr ymdrinnir â nhw yn arbennig o addas ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â chymdeithas sifil a sefydliadau trydydd sector, gyrfaoedd sy’n ymwneud â materion cyfiawnder cymdeithasol, anghydraddoldeb ac arloesi.
Mae tasgau’r gwaith cwrs yn seiliedig ar ymgysylltu â materion a chymwysiadau “y byd go iawn”, gan gynnwys y doreth o dechnolegau digidol a newid yn yr hinsawdd, ac yn eich annog i ddatblygu sgiliau ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudiaethau pellach, mae'r rhaglen hefyd yn darparu sylfeini cadarn ar gyfer gwaith doethuriaeth, naill ai trwy PhD traddodiadol neu ddoethuriaeth broffesiynol. Rydym yn eich annog i feddwl am fywyd y tu hwnt i'r brifysgol o'r diwrnod cyntaf un, ac yn cynnig modiwlau i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch yn graddio.
- A allaf astudio i Cymdeithaseg ar lefel meistr heb unrhyw brofiad blaenorol o'r gwyddorau cymdeithasol?
Bydd yn fanteisiol cael cefndir mewn disgyblaeth gytras yn y gwyddorau cymdeithasol neu bwnc yn y dyniaethau sy'n cyd-fynd. Mae hyn yn golygu y gall myfyrwyr ddod o gefndiroedd cymharol eang gydag amrywiaeth o brofiadau a diddordebau academaidd.
- Pwy fydd yn dysgu ar y cwrs? (gall yr ateb gysylltu â phroffiliau staff)
Caiff y cwrs ei gyflwyno gan dîm o gymdeithasegwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Mae'r tîm yn arbenigo mewn addysgu ar sail ymchwil ac mewn sefyllfa dda i ddarparu profiad ôl-raddedig blaengar gyda buddion gweladwy ar gyfer datblygu unigol a gyrfa.