Barn broffesiynol nyrsys heb ei defnyddio wrth wneud penderfyniadau strategol
14 Tachwedd 2023
Nid yw safbwyntiau a barn broffesiynol nyrsys yn cael eu defnyddio wrth wneud penderfyniadau strategol a allai achosi anfodlonrwydd ymhlith staff a diffyg gofal cleifion o ansawdd uchel, yn ôl ymchwil newydd o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Ariannwyd yr astudiaeth, a elwir yn Pro-Judge, gan Sefydliad yr RCN, gan edrych ar sut mae nyrsys yn defnyddio barn broffesiynol wrth wneud penderfyniadau am drefnu'r gweithlu nyrsio i ddiwallu anghenion cleifion.
Gan ganolbwyntio ar dair ymddiriedolaeth y GIG yn Lloegr a thri Bwrdd Iechyd Prifysgol yng Nghymru canfu’r ymchwilwyr, er y dibynnir ar nyrsys i ddefnyddio barn broffesiynol at ddibenion gweithredol i reoli risgiau yn ystod prinder staff, nad yw eu dyfarniadau’n cario’r un pwysau pan ddaw i gytuno ar lefelau staffio ar lefel strategol.
Mae’r tîm yn awgrymu y gallai hyn arwain at ofal cleifion diogel ond nid o reidrwydd o ansawdd uchel, gan arwain at anfodlonrwydd proffesiynol, a allai effeithio ar gadw nyrsys a chynyddu prinder staff – sy’n hollbwysig ar adeg pan fo nifer y nyrsys sy’n gadael y proffesiwn yr uchaf mewn degawd.
Dywedodd Davina Allen, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd a arweiniodd yr astudiaeth: “Mae systemau gofal iechyd yn pwyso ar farn broffesiynol nyrsys ar gyfer penderfyniadau staffio gweithredol, gan werthfawrogi eu dealltwriaeth byd go iawn o amgylcheddau clinigol dros ddata. Fodd bynnag, o ran gwneud penderfyniadau strategol, mae data yn cael blaenoriaeth dros farn broffesiynol.
“Mae nyrsys wedi lleisio eu pryderon bod systemau mesur ffurfiol yn aml yn methu â chofnodi agweddau hanfodol ar ansawdd gofal a llesiant staff, gan ei gwneud yn heriol iddynt fynegi eu barn broffesiynol ar gyfer cynllunio’r gweithlu. Os yw nyrsys am ddefnyddio eu barn broffesiynol i ddylanwadu’n rhagweithiol ar yr amodau gofal, yn ogystal ag ymateb i heriau lliniaru risg, mae angen systemau mesur nyrsio cadarn wedi’u halinio â safonau gofal cytûn, geirfa ar gyfer mynegi’r dyfarniadau hyn, ac ail-fframio prosesau gwneud penderfyniadau strategol i fod yn fwy cynhwysol o safbwynt clinigol.”
Mae'r astudiaeth yn awgrymu tri cham gweithredu i helpu: rhoi’r geirfa i nyrsys i allu mynegi eu barn broffesiynol ar gyfer gwneud penderfyniadau strategol; bod yn fwy cynhwysol o ran gwybodaeth glinigol a chyd-destunol nyrsio arbenigol mewn sefydliadau gofal iechyd; a mireinio systemau staffio i gynhyrchu data sy'n cofnodi cymhlethdod y llwyth gwaith gofal a nyrsio yn well.
Dywedodd Deepa Korea, Cyfarwyddwr Sefydliad yr RCN: “Rydym yn falch iawn bod ein grantiau ar gyfer ymchwil dan arweiniad nyrsys yn parhau i arloesi a gwneud gwahaniaeth i’r proffesiwn nyrsio. Gyda chyfraddau cadw nyrsys a phrinder staff yn wynebu argyfwng, mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio nyrsys yn y gweithle, gan roi’r grym yn eu dwylo eu hunain a defnyddio eu barn broffesiynol, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.”