Inspirational alumni shine at awards
6 Hydref 2023
Enwyd dau gyn-fyfyriwr o’r Ysgol Cerddoriaeth yn enillwyr ail Seremoni Wobrwyo Cyn-fyfyrwyr Tua 30.
Guy Verrall-Withers (BMus 2013) ac Alexandra Humphreys (BMus 2006) ymhlith yr enillwyr mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd gan Lywydd ac Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner ac a oedd yn cynnwys Meistr y Defodau Matt Barbet (BA 1997, PgDip 1999) yn adeilad arloesol sbarc | spark y Brifysgol ar 5 Hydref.
Gan osgoi fformat rhestrau traddodiadol '30 o dan 30', bwriad y gwobrau hyn yw cydnabod y rheini sy'n ysgogi newidiadau, yr arloeswyr a'r sawl sy'n torri rheolau o blith cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd o dan neu dros 30 oed, ond sy'n teimlo eu bod (tua) 30 oed.
Cafodd Guy Verrall-Withers ei gydnabod yn y Categori Effaith Gymdeithasol ac Alexandra Humphreys yn y Categori Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau.
Mae Guy Verrall-Withers yn Gyfarwyddwr Artistig ac yn Brif Swyddog Gweithredol ar Ŵyl Opera Waterperry, cwmni a sefydlodd yn 2017 yn Waterperry House & Gardens yn Swydd Rydychen. Ei weledigaeth oedd creu gŵyl opera awyr agored arloesol sy’n hygyrch, yn fforddiadwy ac yn gyffrous. Yn angerddol am weithio i deuluoedd, mae'r cwmni wedi teithio gyda sioeau o amgylch y wlad yn cyflwyno cerddoriaeth glasurol i blant. Dywedodd y Telegraph yn ddiweddar fod Guy yn ‘dod ag opera i genhedlaeth newydd’.
Mae Alexandra Humphreys sydd yn gyflwynydd tywydd ar S4C ac yn y gorffennol wedi cyflwyno raglen Newsround CBBC a'i chyfwerth Cymraeg, Ffeil S4C. Mae’r ddau raglen yn sicrhau bod gan blant ddealltwriaeth glir o ddigwyddiadau'r byd. Mae’n dal i adrodd yn rheolaidd ar raglenni newyddion y BBC ac mae wedi creu rhaglenni dogfen ar gemau ar gyfer BBC Radio 4, Gwasanaeth y Byd a Radio Cymru. Cafodd Alex ddiagnosis o epilepsi yn 17 oed ac mae wedi defnyddio ei phroffil i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr – gan ffilmio rhaglen ddogfen yn ddiweddar i roi llais i eraill sy’n byw ag epilepsi.
Roedd 23 o gyn-fyfyrwyr y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ymhlith y rhestr hynod ddisglair o enillwyr, gan amlygu amrywiaeth y llwybrau gyrfaol y bydd graddedigion dyniaethau Prifysgol Caerdydd yn eu dilyn.
Llongyfarchiadau i'r holl gyn-fyfyrwyr ysbrydoledig a gafodd gydnabyddiaeth yn rhestr Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Tua 30 eleni.