Helpu i wella amrywiaeth ym maes Fformiwla 1
16 Tachwedd 2023
Mae myfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn un o’r pum cyfranogydd cyntaf i fod yn rhan o’r Rhaglen Ysgoloriaeth MSc ym maes Chwaraeon Moduro, sydd wedi’i hyrwyddo gan Syr Lewis Hamilton HonFREng i helpu i fynd i’r afael â’r tangynrychiolaeth o bobl Ddu sydd yn y maes chwaraeon moduro a’r sector STEM yn y DU.
Bydd Benjamin Theo Woodhouse, 21, o Gaer-wynt ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn astudio Peirianneg Fecanyddol Uwch (MSc) yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd.
Bydd Ben, a gwblhaodd ei radd israddedig ym maes Ffiseg (BSc) yn ddiweddar, yn cael grant o £25,000 i dalu’r ffioedd dysgu yn llawn ac i dalu hefyd am gostau byw, yn ogystal â chymorth cofleidiol trwy ddigwyddiadau rhwydweithio a phrofiadau ynghlwm â chwaraeon moduro.
Mae'r ysgoloriaethau, a ddyfarnwyd gan yr Academi Beirianneg Frenhinol (RAEng), yn gweithio gyda sefydliad elusennol Syr Lewis Hamilton sef Mission 44, i gefnogi pum myfyriwr Du neu Ddu cymysg eu hethnigrwydd sy'n astudio MSc ym maes peirianneg chwaraeon moduro neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
Cyflwynodd dad Ben ef i Fformiwla 1 yn 2008 pan oedd yn chwe blwydd oed, yr un flwyddyn ag yr enillodd Syr Lewis ei deitl byd cyntaf.
"Roedd gweld dyn du yn dominyddu mewn camp a oedd wedi’i feithrin ar gyfer y dyn dosbarth canol gwyn, ac sy’n dal i fod felly, yn gymaint o ysbrydoliaeth i mi yn blentyn hil gymysg," cofia Benjamin.
"Byth ers hynny, rydw i wedi bod yn methu cael digon ar rasio. Rydw i wedi gwylio pob tymor o Fformiwla 1, Moto GP, British Touring Car ac rydw i wedi fy swyno gan y ceir a’r holl dechnoleg sydd ynghlwm â hyn."
Datblygwyd y rhaglen ysgoloriaeth i fynd i'r afael ag argymhelliad penodol yn adroddiad Comisiwn Hamilton, Accelerating Change: Improving Representation of Black People in UK Motorsport.
Cynigiodd y Comisiwn ddeg argymhelliad a fyddai, ym marn y sawl oedd oedd ynghlwm ag o, yn cael effaith hirdymor a chadarnhaol ar y diwydiant chwaraeon moduro ac yn annog rhagor o fyfyrwyr Du ifanc i astudio pynciau sy'n arwain at yrfaoedd ym maes peirianneg.
Un o'r rhain oedd creu rhaglenni ysgoloriaeth i alluogi graddedigion Du sydd â graddau ym maes peirianneg a phynciau cysylltiedig i symud ymlaen i rolau arbenigol ym maes chwaraeon moduro.
Dywedodd Ben: "Mae diffyg cynrychiolaeth difrifol yn y cyfryngau sy’n darlledu ar chwaraeon moduro o ran grwpiau ethnig Du neu Ddu cymysg. Ym maes Fformiwla 1 er enghraifft, mae gyrrwr gorau’r byd yn Ddu. Fodd bynnag, yr unig berson Du neu Ddu cymysg arall rydw i’n eu gweld yn gweithio i unrhyw un o'r timau yn F1, ar y teledu, yw'r mecanydd ar gyfer Red Bull Calum Nicholas.
"Y broblem gyda cael dau berson yn unig yn cynrychioli’r gymuned Ddu gyfan ym maes chwaraeon moduro yw nad yw hyn yn annog pobl ifanc Du a Du cymysg i freuddwydio a gweithio tuag at yrfa ym maes chwaraeon moduro."
Y gobaith yw, o fewn dwy flynedd i gwblhau eu graddau ôl-raddedig, y bydd y rhan fwyaf, os nad pob un o’r bobl sydd wedi sicrhau ysgoloriaeth, yn cael eu cyflogi yn y sector peirianneg – gyda’r mwyafrif yn y sector chwaraeon moduro a Fformiwla 1.
"Yr awch i ennill sy’n fy ysgogi i," ychwanegodd Ben.
"Rydw i mor awyddus i deimlo'r balchder o fod wedi adeiladu rhan ar gyfer car, gan fod yn rheswm pam fod tîm yn curo'r lleill, mewn diwydiant lle nid gyrrwr yn cystadlu yn erbyn gyrrwr yn unig yw hi, ond peiriannydd yn cystadlu yn erbyn peiriannydd."
Aeth pob un o’r pum enillydd i ddigwyddiad rhwydweithio cyntaf yn Amgueddfa Silverstone ddydd Iau 12 Hydref 2023 lle bu iddyn nhw gyfarfod â staff o’r Academi a Mission 44, cael sesiwn holi ac ateb gyda pheirianwyr o Dîm Mercedes-AMG PETRONAS F1, mynd ar daith o amgylch yr amgueddfa a chymryd rhan yn sesiynau profiad efelychu Silverstone.
Darganfod rhagor ynghylch Y Rhaglen Ysgoloriaeth MSc ym maes Chwaraeon Moduro.